Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor Eisiau Clywed Eich Storïau Windrush

 

  • Dydd Mawrth, 15 Mis Tachwedd 2022

    Bro Morgannwg


 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn i bobl rannu eu cysylltiadau a’u storïau Windrush.

 

I goffáu pen-blwydd Windrush yn 75 oed yn 2023, mae'r Cyngor yn creu cofnod digidol o straeon a lluniau gan drigolion ledled Bro Morgannwg.

 

Mae Diwrnod Windrush in ceisio anrhydeddu'r dynion a'r menywod a ddociodd gyntaf yn Tilbury yn y llong Empire Windrush yn 1948.  Daeth dros 800 o'r teithwyr o'r Caribî ond roedd eraill o India, Pacistan, Cenia a De Affrica.

 

Nid y rhain oedd y bobl gyntaf o liw i ddod i Brydain, ond roedden nhw'n rhagflaenu’r genhedlaeth o bobl a ddaeth o'r Gymanwlad i Brydain yn y 50au, y 60au a'r 70au i ateb galwad llywodraethau olynol i helpu i ailadeiladu Prydain ar ôl yr ail ryfel byd.

 

Hoffai'r Cyngor lansio'r prosiect 'Storïau Cenhedlaeth Windrush ym Mro Morgannwg' ac mae am glywed lleisiau'r rheiny a deithiodd i'r DU o'r Gymanwlad ac a ymsefydlodd yng Nghymru (cyn ac ar ôl 1948).

 

Drwy'r storïau hyn, mae'r Cyngor am ddathlu cyfraniadau cenhedlaeth Windrush at bob agwedd ar fywyd ym Mhrydain, yn ogystal â’i hetifeddiaeth amhrisiadwy ym Mhrydain.

 

"Rydym yn annog pobl yn gryf i gyflwyno eu storïau am eu profiadau a'u heriau. Mae'n bwysig sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed."

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol: "Dyma brosiect gwych sydd â’r nod o ddathlu ac amlygu cyfraniadau cenhedlaeth Windrush nid yn unig i’n diwydiannau hanfodol a'r GIG ond hefyd i'n celfyddydau a'n diwylliant.

"Rydym yn annog pobl yn gryf i gyflwyno eu storïau am eu profiadau a'u heriau. Mae'n bwysig sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed."

Cysylltwch â windrush@valeofglamorgan.gov.uk