Cost of Living Support Icon

 

Seren pêl-droed yn ymweld â’r Oriel Gelf Ganolog wrth i arddangosfa bêl-droed lansio

 

  • Dydd Mercher, 16 Mis Tachwedd 2022

    Bro Morgannwg


 

 

gwynpic

Bydd cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Dave Roberts, yn cymryd rhan mewn digwyddiad holi ac ateb yn yr Oriel Gelf Ganolog ddydd Sadwrn pan fydd arddangosfa i nodi Cwpan y Byd hefyd yn lansio.

 

Fe gynrychiolodd Roberts Fulham, Oxford United, Hull City a Dinas Caerdydd yn ystod gyrfa broffesiynol o 13 mlynedd ac enillodd 17 o gapiau dros Gymru rhwng 1973 a 1978.

 

Bydd Gwyn John yn ymuno ag ef yn yr oriel ar gyfer y sgwrs 11am.

 

Bydd Mr John yn siarad amdan eu llyfr “The Wrong Shaped Ball”, sy'n adrodd hanes ei ymwneud â phêl-droed lleol dros gyfnod o drigain mlynedd.

 

Wedi ei ysgrifennu yn ystod y pandemig, mae'n cofnodi dylanwad John ar y gêm ar lawr gwlad, o helpu i sefydlu CPD Llanilltud Fawr, sydd bellach yn cystadlu yng Nghynghrair Cymru, i’r blynyddoedd a dreuliodd yn hyfforddi.

 

Meddai Mr John:  "Dwi’n methu aros i wylio Cymru yng Nghwpan y Byd ac mae'r digwyddiadau sy'n cael eu llwyfannu yn yr Oriel Gelf Ganolog yn damaid i aros pryd.

 

"Bydd Dave Roberts a minnau'n cynnal sgwrs ryngweithiol ddydd Sadwrn pan fydd pobl yn gallu gofyn i ni am ein profiadau gwahanol yn y gêm.

 

"Mae arddangosfa syfrdanol o luniau chwaraeon Cymru yn cyd-fynd â hynny.

 

"Hoffwn ddymuno'r gorau i Rob Page a'r garfan ar gyfer y twrnament.  Ymlaen fechgyn – gwnewch ni’n falch ohonoch!"

 

Mae’r Oriel Gelf Ganolog hefyd yn cynnal arddangosfa luniau rhwng 19 a 29 Tachwedd wrth i Gymru baratoi ar gyfer ei Chwpan Byd cyntaf mewn 64 o flynyddoedd.

 

Yn rhan o Ŵyl Cymru, sy'n gydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, bydd yr arddangosfa yn cynnwys amrywiaeth o ddelweddau gan Huw Evans Picture Agency a Rhys Skinner, ffotograffydd Clwb Tref y Barri.

 

Mae Huw Evans Picture Agency wedi bod yn cofnodi eiliadau chwaraeon eiconig Cymru ers degawdau a bydd 100 o'r goreuon, sy'n darlunio timau dynion a merched, yn cael eu dangos.

 

Maen nhw wedi'u cyhoeddi'n helaeth mewn cyfryngau print ac ar-lein, a’r cwmni yw ffotograffydd swyddogol Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, Undeb Rygbi Cymru, rhanbarthau Cymru, Clwb Criced Morgannwg a mwy.

 

Mae Rhys Skinner yn dilyn Tref y Barri o gwmpas y wlad a thu hwnt ac roedd hefyd yn bresennol yn eu hymgyrchoedd diweddar yng Nghynghrair Europa.

 

Mae ei waith yn cofnodi eiliadau unigryw’r tîm yn chwarae, yn teithio ac yn dathlu gyda chefnogwyr.   

Dwedodd Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch:  "Mae'r Cyngor yn falch iawn o gael cymryd rhan yng Ngŵyl Cymru. Mae'n wych ein bod yn rhan o'r digwyddiad rhyngwladol unigryw hwn ar draws y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, sy'n cael ei gefnogi a'i hyrwyddo gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

 

"Mae gennym arddangosfa ffotograffiaeth pêl-droed ardderchog a sgwrs wych gyda Gwyn John a Dave Roberts, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru yn digwydd yn Oriel Gelf Ganolog y Barri.  Hoffem ni yma yn y Fro ddymuno pob llwyddiant i dîm Cymru yng Nghwpan y Byd 2002."

 

Mae’r Oriel Gelf Ganolog yn rhan o gyfadeilad Neuadd y Dref a Llyfrgell y Barri yn Sgwâr y Brenin.

 

Mae rhagor am y rhaglen sydd i ddod i'w weld ar  wefan y Cyngor, ac mae modd cadw lle yn y digwyddiad Holi ac Ateb am ddim drwy ymweld ag Eventbrite.