Cost of Living Support Icon

 

Pafiliwn Pier Penarth i gynnal cyfres o ddigwyddiadau Nadoligaidd

Ar drothwy tymor yr ŵyl, mae Pafiliwn Pier Penarth sy'n cael ei weithredu gan Gyngor Bro Morgannwg wedi trefnu amserlen o ddigwyddiadau llawn hwyl i'r gymuned eu mwynhau.

 

  • Dydd Mawrth, 15 Mis Tachwedd 2022

    Bro Morgannwg



Penarth Pier PavilionMae'r amserlen yn cynnwys gweithdai gwneud torchau Nadolig, sgyrsiau hanes celf, dangosiadau Polar Express brecinio a the prynhawn Nadoligaidd, arddangosiad celf yr ŵyl, a noson gabare Nadolig.


A hwythau’n cael eu cynnal o 30 Tachwedd, mae'r digwyddiadau Nadoligaidd yn darparu ar gyfer amrywiaeth o oedrannau a diddordebau. Mae prisiau’r tocynnau'n cychwyn o £7.25 ac mae modd archebu ar wefan Bro Morgannwg.


Yn ogystal â'r gyfres o ddigwyddiadau, mae'r Pafiliwn yn cynnal diwrnod agored am ddim ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr.


Bydd y diwrnod hefyd yn gyfle i grwydro o amgylch y lleoliad eiconig a dysgu am y digwyddiadau cyffrous sydd yn yr arfaeth ar gyfer 2023. 


Bydd y dathliadau'n dechrau am 11am gyda charolau yng nghwmni Band Byddin yr Iachawdwriaeth Penarth, ac yna mins peis a cherddoriaeth y tu mewn i'r Pafiliwn. 

Y Cynghorydd Rhiannon Birch – Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: "Mae amserlen yr ŵyl eleni yn edrych yn wych, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn ei mwynhau.


"Ar ôl rhaglen waith helaeth i adfer yr adeilad poblogaidd, mae hi bob amser yn wych gweld drysau'r Pafiliwn ar agor i'r gymuned.


"Bydd y diwrnod agored yn gyfle gwych i ymdrochi yn ysbryd y Nadolig mewn lleoliad prydferth."