Y Cyngor a Legacy Leisure yn ariannu rhaglen digwyddiadau ieuenctid
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Legacy Leisure i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gweithgareddau ieuenctid.
Wedi'i ariannu gan y Cyngor, mae rhai o'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r haf, gydag eraill yn ddiweddarach eleni a'r flwyddyn nesaf.

Maent yn cael eu trefnu gan Legacy Leisure, tîm Byw’n Iach y Cyngor a'r Gwasanaeth Ieuenctid, ynghyd â chlybiau chwaraeon lleol.
Y nod yw cynyddu iechyd a lles ymhlith aelodau iau o'r gymuned, gyda phlant rhwng 14 a 18 oed wedi’u nodi fel rhai sydd wedi’u heffeithio’n negyddol gan y pandemig.
Mae'r sesiynau sydd ar gael yn cynnwys ffitrwydd, nofio, pêl-fasged, golff, pêl-droed bocsio, dawns a mwy, ac maent wedi'u targedu at ystod o grwpiau oedran dros 11 oed.
Byddant yn cael eu cynnal yng nghanolfannau hamdden Y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr, yn ogystal ag amrywiaeth o leoliadau eraill dan do ac awyr agored ar draws y Fro.
Mae amserlen lawn o ddigwyddiadau ar gael ar dudalen we Datblygu Chwaraeon y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae gan y Cyngor berthynas waith agos gyda Legacy Leisure, y cwmni sy'n gyfrifol am weithredu ein canolfannau hamdden. Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r ddau sefydliad yn dod at ei gilydd i gynnig cyfleoedd i drigolion wella eu hiechyd a'u lles.
"Mae hon yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor, yn ogystal â chefnogi ein pobl ifanc, y mae llawer ohonynt wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y coronafeirws a'r holl aflonyddwch a achosodd."