Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn am farn ar Gynllun Cyflawni Blynyddol

Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB) yn manylu ar y gwaith a fydd yn cael ei wneud dros y flwyddyn nesaf er mwyn cyflawni pedwar amcan allweddol y Cyngor.

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



Dyma nhw: 

  • Gweithio gyda a thros ein cymunedau
  • Cefnogi dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy 
  • Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned
  • Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd

Mae'r Cyngor yn gofyn am adborth gan drigolion, ei bartneriaid a'r trydydd sector ynghylch a yw'r camau a fydd yn ganolbwynt gwaith y Cyngor yn 2024-25 y rhai cywir i gyflawni'r amcanion hyn.  

 

Fel llawer o'r sector cyhoeddus, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau ariannol sylweddol ond mae'r cynllun hwn yn dangos ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth, i weithio gyda chymunedau lleol, i amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed ac mae’n cydnabod ein cyfrifoldebau o ran newid yn yr hinsawdd a natur.


Yn ogystal â'r pedwar amcan allweddol, mae'r cynllun eleni yn manylu ar dair her y mae'r Cyngor yn teimlo eu bod yn flaenoriaeth ar gyfer y 12 mis nesaf.

 

Dyma nhw:

  • Gwydnwch Sefydliadol (ein cyllid, pobl ac asedau)  – sicrhau y gallwn barhau i addasu yn wyneb heriau a darparu ein gwasanaethau er gwaethaf y pwysau ariannol a heriau’r gweithlu sy'n ein hwynebu ni a nifer o'n sefydliadau partner.   
  • Argyfwng Costau Byw - cefnogi ein trigolion, sefydliadau a busnesau lleol yn wyneb costau cynyddol yn enwedig o ran ynni, bwyd a thai.  
  • Argyfyngau Hinsawdd a Natur - ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur a chyflawni’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Her Hinsawdd. 

Bydd y camau a restrir yn y cynllun yn cyfrannu at y broses o ymateb i'r heriau allweddol hyn yn ogystal â chyfrannu at yr amcanion cyffredinol. 


Bydd camau gweithredu ar draws yr holl bedwar Amcan Lles yn cyfrannu at gwrdd â'r heriau hollbwysig hyn gan ddangos y ffordd integredig y mae’r Cyngor yn gweithio a natur amlweddog ei weithgareddau.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym yn gwybod y bydd y flwyddyn nesaf yn heriol i bob un ohonom, wrth i ni barhau i wynebu effeithiau'r argyfwng costau byw, y pwysau sylweddol ar lawer o'n gwasanaethau ac yn parhau i ganolbwyntio ar amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed ac ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r tasgau hyn yn anodd eu cydbwyso, ond mae pob un ohonynt yn hanfodol bwysig os ydym am barhau i ddiwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol." 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y CCB a dweud eich dweud yn https://cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/cynllun-cyflawni-blynyddol


Daw'r ymgynghoriad i ben ar 11 Ionawr 2024.