Cost of Living Support Icon

 

Llanilltud Fawr i gynnig cartrefi dros dro i deuluoedd o Wcráin

Bydd tua 90 o unedau llety dros dro yn cael eu datblygu ar safle hen Ysgol Gynradd Eagleswell yn Llanilltud Fawr.

  • Dydd Gwener, 03 Mis Chwefror 2023

    Bro Morgannwg


 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru fydd yn darparu tai tymor byr o ansawdd uchel i rai mewn angen, fel ffoaduriaid o'r rhyfel yn Wcráin.

 

"Mae'r byd wedi gwylio mewn arswyd wrth i'r gwrthdaro hwnnw ddatblygu, gyda'r gymuned ryngwladol yn dangos ei chefnogaeth i Wcráin yn bennaf. Mae'r rhain yn anheddau nad ydynt yn barhaol sydd â’r nod o ddarparu ar gyfer y rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth a pherygl.

 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod Cymru'n 'Genedl Noddfa', gan bwysleisio ei hawydd i helpu i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'r nod hwnnw ac yn falch ei fod, ers dechrau'r rhyfel, wedi gwneud ymdrech sylweddol i helpu'r rhai mewn angen. Mae nifer fawr wedi cael llety Canolfan Croeso tymor byr a gwesty, tra bod cannoedd o drigolion y Fro wedi dangos caredigrwydd aruthrol wrth agor eu cartrefi i faciwîs Wcrainaidd.

 

"Mae'n bwysig bod darpariaeth ar gael hefyd tan i'r bobl hyn symud i dai mwy parhaol ac mae'r safle yma wedi cael ei nodi yn addas iawn i'r pwrpas yma.

 

"Ystyriwyd amrywiaeth o leoliadau eraill, dan berchnogaeth y Cyngor ac unigolion preifat, ond barnwyd mai hwn oedd y mwyaf addas am nifer o resymau. Mae ei faint yn golygu y gall fynd i'r afael â rhan helaeth o anghenion llety'r rheiny sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin, mae ganddo eisoes gyfleusterau fel cyflenwad dŵr, draenio a thrydan felly gellir ei ddatblygu'n gyflym, ac mae'n agos at wasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth.

 

"Nid yw'r unedau hyn yn strwythurau parhaol felly gellir eu symud i leoliad arall yn y dyfodol. Bydd y datblygiad ar Eagleswell Road yn cael ei ddylunio'n ofalus a'i gyflwyno'n dda. Bydd yn debyg i ystad dai draddodiadol.

 

“Gan nad yw hi'n glir pa mor hir y bydd y rhyfel yn Wcráin yn para, nid oes modd dweud yn bendant pa mor hir y bydd angen yr unedau llety. Ond maen nhw wedi'u hadeiladu dan Hawliau Datblygiad a Ganiateir, sy'n golygu y byddai rhaid i'r Cyngor gyflwyno cais cynllunio manwl iddyn nhw aros y tu hwnt i'r tymor byr. Byddai hyn yn dilyn yr un broses ag unrhyw gais arall ac yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

 

“Mae'r unedau wedi’u hadeiladu i safonau dylunio llym sy'n rhagori ar lefelau traddodiadol o ran ansawdd. Mae'r contractwr yn agos at gwblhau cam dylunio'r prosiect, gyda'r Cyngor yn rhoi adborth helaeth ar agweddau tirlunio, ecoleg a draenio. Gellir gweld lluniau dylunio o'r datblygiad ar wefan y Cyngor, tra bod delweddau copi caled ar gael drwy ymweld â swyddfeydd Cyngor Tref Llanilltud Fawr.

 

"Mae defnydd hirdymor y safle yma i'r dyfodol hefyd yn cael ei drafod ymysg galwadau o fewn y gymuned am ganolfan feddygol newydd yn y dref. Mae sgyrsiau wedi digwydd a byddant yn parhau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro dros y posibilrwydd o ddefnyddio rhan o'r safle hwn ar gyfer canolfan iechyd."

Mae disgwyl i'r datblygiad gael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn ac mae potensial i sicrhau bod rhai o'r cartrefi dros dro ar gael cyn gynted â'r haf hwn.

 

Bydd y cynllun yn cael ei ariannu trwy Gynllun Busnes Tai y Cyngor a chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

 

Datblygiad newydd yn Eagleswell Road, Llanilltud Fawr