Cost of Living Support Icon

 

Grwpiau cymunedol yn cael cyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin

 

  • Dydd Gwener, 27 Mis Ionawr 2023

    Bro Morgannwg



 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cyfle i grwpiau lleol gael mynediad at gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 

 

Mae tîm Economi Creadigol ac Economi'r Fro y Cyngor yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau cynghori wedi'u hanelu'n bennaf at sefydliadau'r trydydd sector a busnesau lleol.

 

Bydd y rhain yn gyfle i rannu gweledigaeth Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan ganolbwyntio ar anghenion a chyfleoedd lleol y Sir. Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal gan Cwmpas.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn fuddsoddiad i'w groesawu yn y Fro, yn enwedig ar yr adeg heriol hon. Bydd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i gydlunio datrysiadau gyda chydweithwyr a sefydliadau eraill, ac i gydweithio i sicrhau bod y gronfa’n cael ei chyfeirio at y mannau y mae ei hangen fwyaf.”

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar ei bod wedi cymeradwyo'r cynlluniau gwariant lleol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  O ganlyniad, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn brysur yn gwneud cynlluniau cyffrous ar gyfer y misoedd i ddod.

 

Bydd cyfres o ddyddiau cynghorion i gymunedau a chynghorion i fusnesau, yn canolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng Costau Byw a phryderon eraill. Ymhlith y pynciau dan sylw fydd yr argyfwng costau byw, pocedi o anghydraddoldeb parhaus, cyfleoedd economaidd, iechyd a lles, lleihau allyriadau a newid i sero net, sectorau cyflogaeth a swyddi sy’n bwysig yn lleol, ac ystyried anghenion penodol cymunedau gwledig.

 

Bwriad y dyddiau cynghorion i gymunedau yw dod â phobl at ei gilydd i ddatblygu syniadau ffres i fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng a heriau cymdeithasol eraill. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu hanfodion sefydlu menter neu brosiect cynaliadwy, gan gynnwys adeiladu ar gryfderau'r gymuned, creu syniadau newydd, gwneud cais am gyllid, creu incwm, gweithio gyda gwahanol grwpiau, a sut i roi prawf ar syniadau. Does dim angen profiad o redeg prosiect neu fenter gymdeithasol.

 

Nod y digwyddiadau cynghorion i fusnesau yw sefydlu cydweithrediadau, prosiectau, rhwydweithiau neu ddigwyddiadau cynaliadwy sy'n adeiladu ar gryfderau cymuned fusnes y Fro.  Bydd y sesiynau'n ymdrin â datblygu syniadau arloesol, cael gafael ar fuddsoddiad, cynhyrchu ffrydiau incwm newydd, gweithio gyda gwahanol grwpiau a sut i roi syniadau ar brawf.

 

Penllanw'r digwyddiad fydd digwyddiad cyflwyno terfynol gerbron panel dyfarnu.

 

Mae mwy o fanylion ar sut i gofrestru ar ein tudalen we bwrpasol https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/working/Communities/Shared-Prosperity-Fund.aspx