Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Yn Nodi Diwrnod Cofio'r Holocost

Ymunodd Cyngor Bro Morgannwg â phobl ar draws y byd i nodi Diwrnod Coffau'r Holocost yr wythnos hon. 

 

  • Dydd Iau, 27 Mis Ionawr 2022

    Bro Morgannwg


 

 

David Green Artwork

Mynychodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett arddangosfa yn Oriel Gelf y Cyngor a darllen y Datganiad Ymrwymiad. Mae'r datganiad yn addunedu i gofio erchyllterau'r holocost a'i ddioddefwyr ac i addysgu a brwydro yn erbyn gwahaniaethu.

 

Mynychodd Prif Weithredwr y Cyngor, Rob Thomas, yr arddangosfa hefyd a darllen y datganiad yn Gymraeg. 

 

Mae'r arddangosfa, 'Chambre' a 'De Blaue Diamant', yn yr Oriel Gelf yn cynnwys gwaith gan yr artist o Fro Morgannwg, David Green sy'n canolbwyntio ar thema’r 'tanddaearol' ac sy'n seiliedig ar fudiadau gwrthsefyll tanddaearol yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ar bobl gyffredin.

 

Cafodd ail arddangosfa am stori ‘Rhosyn Gwyn’ Hans a Sophie Scholl hefyd ei harddangos gan yr artist a'r athrawes Nicola Tucker.

 

Mae'r arddangosfa i'w gweld rhwng 14 Ionawr a 25 Chwefror 2023. 

 

Mae'r Diwrnod Cofio Rhyngwladol hwn yn coffáu rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Mae'r Cyngor wedi nodi'r diwrnod hwn bob blwyddyn ers 2007, gan anrhydeddu'r miliynau o ddioddefwyr Holocost yr Ail Ryfel Byd a hil-laddiadau dilynol sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill.

 

Yn 2023, mae Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost gyda nifer o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd.

 

Nodwyd y dyddiad hefyd gan y Cyngor drwy oleuo Pafiliwn Pier Penarth a Neuadd y Dref y Barri yn borffor, yn ogystal â lleoliadau eraill yn y Barri o Ddydd Gwener 27 tan Ddydd Llun 30 Ionawr.

Purple Lights Holocaust Memorial Day

 

Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r Cyngor yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost gydag arddangosfeydd yn Oriel Gelf Ganolog y Barri a hefyd ym Mhafiliwn Pier Penarth. Dangosir ffilm hefyd ym Mhafiliwn y Pier Ddydd Gwener sy'n gysylltiedig â'r llyfr y mae'r arddangosfa wedi'i seilio arno.

 

"Y rheswm pam ei fod yn bwysig yw oherwydd bod hanes mewn gwirionedd yn siapio ein heddiw ni. Rydym yn gwybod fod llawer o ragfarn o fewn cymdeithas o hyd ac weithiau gall fod yn ddefnyddiol edrych yn ôl, i gofio ac i roi sylw dyledus i’r gwersi sydd gan rywbeth mor erchyll â'r holocost. Rwy'n credu bod yr arddangosfa heddiw yn yr Oriel Gelf Ganolog yn gwneud i ni sylweddoli erchyllterau'r cyfnod hwnnw."

 

Dwedodd Rob Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Bro Morgannwg: Chief Executive Rob Thomas and Cllr Lis Burnett "Eleni, thema Ymddiriedolaeth Goffa'r Holocost yw 'Pobl Gyffredin' a thema'r arddangosfa hon yw 'Tanddaearol'. Mewn gwirionedd mae gennym ddau artist sy'n arddangos eu gwaith yma eleni.  Un wedi'i seilio ar strwythurau corfforol ac mae gennym un arddangosfa wedi'i seilio ar stori a chefndir gwrthsafiad yn yr Almaen yn y 1940au.

 

"Mae'n ddiddorol iawn ar lawer cyfrif am eu bod yn straeon personol ond hefyd maent yn ddiddorol ac yn bwysig iawn o safbwynt y ffaith ein bod ni’n dysgu gan y gorffennol. Y rheswm pam ein bod yn cynnal hyn bob blwyddyn yw oherwydd ei bod yn hanfodol bwysig ein bod ni'n dysgu o'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol ac fel bod cymdeithas yn gallu dysgu o hynny yn gyffredinol."