Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ar gyllideb 2023/24

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datgelu’r cynnydd mae’n ei gynnig yn y Dreth Gyngor, gydag adroddiad ar gyllideb 2023/24 i gael ei ystyried yr wythnos nesaf.

 

  • Dydd Gwener, 13 Mis Ionawr 2023

    Bro Morgannwg



Bydd cynnydd o 4.9 y cant sy’n cael ei awgrymu yn cael ei drafod ddydd Iau pan fydd y Cabinet yn cael manylion cynllunio ariannol yr Awdurdod.


Mae disgwyl i'r cynnydd hwnnw fod yn debyg i'r rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol eraill Cymru neu'n is, a byddai'n golygu bod trigolion y Fro yn parhau i dalu llai na chost cyfartalog y Dreth Gyngor yng Nghymru.


Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion y gyllideb yn dilyn - gydag arolwg ar gael ar wefan y Cyngor yn fuan - cyn i gynlluniau gael eu cwblhau mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ym mis Mawrth.


Mae setliad uwch na'r hyn a ragwelwyd gan Lywodraeth Cymru wedi lleihau'r pwysau ariannol sydd ar y Cyngor.

 

Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol hwnnw a'r cynnydd posibl hwn yn y Dreth Gyngor, mae'r Awdurdod yn dal i wynebu diffyg o tua £9 miliwn yn y gyllideb, gyda'r argyfwng costau byw yn rheswm allweddol dros hynny.

 

Y gobaith yw y gellir pontio hyn gydag arbedion a defnydd gofalus o gronfeydd wrth gefn. 

 

Fel gydag Awdurdodau Lleol, busnesau ac unigolion eraill, mae amgylchedd economaidd anwadal, y cynnydd aruthrol mewn prisiau ynni a chyfraddau chwyddiant a llog cynyddol wedi effeithio’n sylweddol ar y Cyngor.


Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n ddiolchgar am y cymorth ariannol rydyn ni wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru ar ffurf ein setliad. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

 

Lis Burnett Colour

"Fodd bynnag, y realiti anffodus yw nad yw'n dod yn agos at bontio ein bwlch ariannu sylweddol.


"Rydyn ni’n parhau mewn sefyllfa ariannol hynod heriol, gyda phenderfyniadau anodd ac annymunol o'n blaen.


"Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o oresgyn yr heriau hyn a bydd barn y gymuned yn chwarae rhan allweddol wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen.


"Mae amddiffyn y gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion mwyaf agored i niwed yn dibynnu arnyn nhw o’r pwys mwyaf. 


"Mae darparu gofal cymdeithasol, cyfleusterau cymunedol a phrydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn gwbl angenrheidiol. 


"Mae'r weinyddiaeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w haddewidion allweddol ynghylch addysg, tai, teithio llesol, mannau agored, buddsoddi mewn busnesau lleol a newid yn yr hinsawdd.


"Byddwn yn parhau i adeiladu ac adnewyddu ysgolion a chynnal ein rhaglen adeiladu tai Cyngor, gan ddarparu eiddo o'r safon uchaf i rai o'n trigolion sydd â'r angen mwyaf.


"Mae annog teithio llesol hefyd yn parhau'n flaenoriaeth wrth i ni weithio i gynyddu nifer y llwybrau cerdded a beicio ledled y sir. Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad Prosiect Sero, cynllun y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.


"Rydyn ni hefyd am fuddsoddi mewn cyfleusterau ar gyfer lles ein trigolion, gan gynnwys ein plant. Mae hyn yn cynnwys parciau ac ardaloedd chwarae, yn ogystal â'n hysgolion, tra ar yr un pryd yn helpu i greu swyddi lleol a pharhau â gwaith adfywio pwysig o fewn ein cymunedau.


"Mae heriau o'n blaen, ond rydyn ni’n benderfynol o’u goresgyn."