Cost of Living Support Icon

 

Ardal chwarae Penarth yn ailagor ar ei newydd wedd

Mae ardal chwarae Dewi Sant ym Mhenarth wedi ailagor yn dilyn rhaglen o waith adnewyddu a ariannwyd drwy fuddsoddiad £120,000 gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Iau, 26 Mis Ionawr 2023

    Bro Morgannwg



St Davids - new play arear ôl ymgynghori gyda thrigolion ar gynllun yr ardal chwarae, dechreuodd y Cyngor weithio i drawsnewid y safle'n ofod rhyngweithiol, hwyliog i'r gymuned ei fwynhau.


Gyda thema coetir a natur, mae'r parc newydd yn cynnig mannau eistedd plastig wedi'u hailgylchu ac offer newydd, gan gynnwys unedau dringo, si-sos, a siglenni, a ddyluniwyd ar gyfer plant hyd at 12 oed.


Mae'r ardal chwarae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o offer cynhwysol, gan gynnwys rowndabowt sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, offer synhwyraidd cerddorol a chyffyrddadwy, a siglenni crud.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau; "Rwy'n falch iawn o weld ardal chwarae Dewi Sant yn ailagor i'r gymuned.


St Davids Play Area - seesaw“Mae’r gwaith uwchraddio yn rhan o raglen eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Fro. 


"Gobeithio bod y cyfleuster yn rhoi lle i blant lleol gael hwyl a mwynhau chwarae yn yr awyr agored am flynyddoedd i ddod.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John - Yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae'n wych gweld y safle cymunedol poblogaidd hwn yn cael ei drawsnewid.


"Rwy'n siŵr y bydd yr offer newydd a'r olwg fodern yn gwneud ardal chwarae Dewi Sant yn gyrchfan boblogaidd i deuluoedd unwaith eto."

St Davids Play Area ReopeningGwahoddwyd trigolion i fynychu'r ailagor a mwynhau'r cyfleuster newydd a sgwrsio gyda staff y Cyngor am gynlluniau i ailwylltio'r tir cyfagos.


Ymysg y rheiny fu'n bresennol roedd y trigolion lleol, Alex Lewis a Wayne Eley, sy’n dal atgofion melys o blentyndod am ardal chwarae Dewi Sant ac a fynychodd digwyddiad agor y safle gwreiddiol yn y 1990au.

Dywedodd Alex: "Treuliais lawer o fy mhlentyndod ym Mharc Dewi Saint. 


"Byddwn i'n rhuthro i'r parc ar ôl ysgol i gwrdd â fy ffrindiau lle bydden ni'n dal pen rheswm a chwarae gemau.


"Ar ôl cael fy mhlentyn cyntaf byddwn yn treulio'r boreau cyfan bron yn ei gwthio ar yr un siglenni ag y bues i'n chwarae arnyn nhw gynt.


"Mae wedi bod yn wych gallu creu atgofion gyda fy mhlant yn y parc a hel atgofion a rhannu straeon am fy mhlentyndod i."

Dywedodd Wayne: "Roedd Parc Dewi Sant yn rhan enfawr o fy mywyd wrth dyfu i fyny.


“Nawr, mae gen i fy mhlant fy hun a rwy’n gobeithio y bydd yr ardal chwarae newydd yn dod yn rhan fawr o blentyndod y genhedlaeth newydd.”