Cost of Living Support Icon
​

 

Diwrnod Hwyl i’r Teulu Dechrau’n Deg yn llwyddiant ysgubol

Cynhaliodd tîm Dechrau'n Deg Cyngor Bro Morgannwg ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu ym Mharc Penceodtre yn Nhregatwg ar 26 Gorffennaf.

 

  • Dydd Iau, 27 Mis Gorffenaf 2023

    Bro Morgannwg



Flying Start Family Fun Day - Reptile standCydweithiodd y tîm gyda dros 40 o wasanaethau a sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg, Llyfrgelloedd, Cymunedau am Waith, Llinell Gynghori Teuluoedd yn Gyntaf, Cymorth Cynnar a thimau Byw'n Iach, i ddarparu diwrnod llawn hwyl am ddim i deuluoedd ei fwynhau. 


Roedd y gweithgareddau'n cynnwys celf a chrefft, offer chwarae wedi’u llenwi ag aer, consuro, saethyddiaeth, paentio wynebau, a realiti rhithwir.


Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i'r stondinwyr godi ymwybyddiaeth o'r llu o wasanaethau rhad ac am ddim sydd ar gael yn y Fro sy’n cefnogi teuluoedd.


Rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yw  cynllun Dechrau'n Deg sy'n cefnogi teuluoedd ac yn  gwella datblygiad, iechyd a lles plant. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys pedwar hawl gan ddarparu gofal plant, gofal iechyd, rhaglenni rhianta a datblygiad iaith a lleferydd.

Dywedodd Kathryn Clarke, Rheolwr Dechrau'n Deg: "Rydym wedi cynnal diwrnod o hwyl i'r teulu am ddim ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i'r holl asiantaethau sy'n ein cefnogi i gyflawni hyn ar gyfer teuluoedd y Fro.


"Arhosodd y glaw i ffwrdd am y rhan fwyaf o'r dydd, ac roedd yn hyfryd gweld y plant a'u rhieni/gofalwyr yn cymryd rhan yn yr holl weithgareddau a ddarparwyd. 


"Diolch yn fawr iawn i bawb fu'n rhan o'r diwrnod, ac yn enwedig Claire Urch – Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Dechrau’n Deg a Claire Haydon – y Swyddog Diogelwch am gydlynu'r digwyddiad llwyddiannus hwn".

Flying Start Family Fun Day - Craft tableGallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau a chymorth teuluol ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.


Mae'r digwyddiad yn un o nifer o weithgareddau sydd ar gael i bobl ifanc yr haf hwn. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Cyngor wedi casglu calendr o weithgareddau haf rhad ac am ddim a chost isel sy'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. 


Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau i’w gweld ar wefan Bro Morgannwg.

 

Dwedodd y Cynghorydd Eddie Williams, yr  Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:  "Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, ac roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau a'r stondinwyr. 


"Roedd y digwyddiad yn ymdrech gydweithredol wirioneddol, wedi'i chydlynu'n arbenigol gan ein Tîm Dechrau'n Deg. 


"Mae'r tîm a chymaint o'r sefydliadau a fynychodd, yn darparu cefnogaeth hanfodol i deuluoedd yn y Fro. 


"Da iawn i bawb fu’n rhan o’r gwaith!"