Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 22 Mis Mawrth 2023
Bro Morgannwg
Cafwyd £350,000 o gyllid fis Mawrth y llynedd drwy grant gan Chwaraeon Cymru, sydd wedi darparu £200,000 ar gyfer y prosiect, arian cyfalaf gan y Cyngor a £30,000 yn ychwanegol yn dod o Gronfa Goffa Richard Taylor.
Fodd bynnag, roedd angen £80,900 ychwanegol i'r cynllun gwell a gynhyrchwyd drwy ymgynghori'n helaeth â'r gymuned sglefrio leol a chwmni Bendcrete Leisure Ltd. Sicrhawyd hyn bellach drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Nawr bod y dyluniad terfynol wedi'i gytuno, rhagwelir y bydd Bendcrete yn dechrau ar y gwaith adeiladu ar y safle yn hwyr ym mis Ebrill a bydd y dyluniad yn cymryd tua 14 wythnos i'w adeiladu.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Er nad ydym wedi gallu ymgorffori'r holl geisiadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y dyluniad newydd yn darparu ar gyfer pawb, ac yn cynnig llinellau trosglwyddo heriol i'r sglefrwyr mwy dawnus. "Rwy'n falch iawn y bydd y Cyngor, mewn partneriaeth â Chronfa Goffa Richard Taylor a Chwaraeon Cymru, yn darparu cyfleuster o'r safon uchaf ar gyfer y gymuned sglefrfyrddio mewn lleoliad poblogaidd sydd wedi hen ennill ei blwyf."
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Er nad ydym wedi gallu ymgorffori'r holl geisiadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y dyluniad newydd yn darparu ar gyfer pawb, ac yn cynnig llinellau trosglwyddo heriol i'r sglefrwyr mwy dawnus.
"Rwy'n falch iawn y bydd y Cyngor, mewn partneriaeth â Chronfa Goffa Richard Taylor a Chwaraeon Cymru, yn darparu cyfleuster o'r safon uchaf ar gyfer y gymuned sglefrfyrddio mewn lleoliad poblogaidd sydd wedi hen ennill ei blwyf."
Ychwanegodd Gaynor Taylor: "Rwyf wrth fy modd bod y Loteri wedi darparu'r arian ychwanegol sydd ei angen ar gyfer i fwrw ymlaen â Pharc Sglefrio newydd Coffa Richard Taylor. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Bendcrete yn dod ar y safle. "Hoffwn ddiolch i Chwaraeon Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Waterloo, Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a haelioni pawb sydd wedi gwneud rhoddion er mwyn gwneud y prosiect hwn yn bosibl."
Ychwanegodd Gaynor Taylor: "Rwyf wrth fy modd bod y Loteri wedi darparu'r arian ychwanegol sydd ei angen ar gyfer i fwrw ymlaen â Pharc Sglefrio newydd Coffa Richard Taylor. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Bendcrete yn dod ar y safle.
"Hoffwn ddiolch i Chwaraeon Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Waterloo, Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a haelioni pawb sydd wedi gwneud rhoddion er mwyn gwneud y prosiect hwn yn bosibl."