Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cytuno ar gyllideb 2023/24

Cytunodd Cyngor Bro Morgannwg ar ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf mewn cyfarfod neithiwr.

 

  • Dydd Mawrth, 07 Mis Mawrth 2023

    Bro Morgannwg



Cafodd cynigion i warchod gwasanaethau cymorth i'r preswylwyr mwyaf agored i niwed eu cymeradwyo gan fwyafrif y cynghorwyr ar ôl ystyriaeth lawn o'r holl sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn ogystal â thrafodaeth gan holl bwyllgorau craffu'r Cyngor. 

 

Bydd y Dreth Gyngor yn cynyddu 4.9 y cant. Disgwylir i hyn fod yn gynnydd llai na'r ffigur ar gyfer y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol eraill Cymru a ddylai olygu bod preswylwyr y Fro yn parhau i dalu llai na'r cyfartaledd sy'n cael ei godi yng Nghymru.

 

Bydd cynnydd hefyd yn y taliadau am rai gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol. Mae angen y cynnydd yn y Dreth Gyngor a'r newidiadau i daliadau oherwydd bod rhaid i'r Cyngor dalu am ddiffyg ariannol o £9.7 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, "Er gwaethaf setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor yn parhau i fod mewn sefyllfa ariannol hynod anodd a heriol.


Civic

"Yn anffodus, mae hynny'n golygu bod rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd gan nad oes gennym yr arian i gynnal yr holl wasanaethau ar y lefelau presennol. 

 

"Rydym wedi cadw’r cynnydd yn y Dreth Gyngor mor isel â phosibl am ein bod yn gwerthfawrogi'r pwysau ar breswylwyr yn ystod yr argyfwng costau byw. 

 

"Yn anffodus, mae'r Cyngor hefyd wedi dioddef o’r cynnydd diweddar mewn prisiau ac mae hynny'n golygu bod cynnydd yn y Dreth Gyngor yn hanfodol er mwyn i ni gadw gwasanaethau hanfodol i'n preswylwyr a'n cymunedau.

 

"Ein blaenoriaeth o hyd yw diogelu ysgolion a sicrhau bod ein preswylwyr mwyaf agored i niwed yn parhau i dderbyn y gofal a'r cymorth mae eu hangen arnynt."

Mae arbedion sy'n ychwanegu hyd at £7.4 miliwn wedi'u cynnig, a bydd yr arbedion hyn, ynghyd â'r defnydd gofalus o gronfeydd wrth gefn y cyngor, yn helpu i bontio'r bwlch cyllido. Fel gydag Awdurdodau Lleol, busnesau ac unigolion eraill, mae amgylchedd economaidd anwadal gyda’r cynnydd aruthrol o ran prisiau ynni, cyfraddau llog a chwyddiant wedi effeithio’n sylweddol ar y Cyngor.


Prif ffynhonnell incwm y Cyngor yw setliad gan Lywodraeth Cymru sydd, gan gynnwys cyfraniad o ardrethi busnes cronnol, yn darparu tua 69 y cant o'r £294 miliwn sydd ei angen arno i ddarparu'r holl wasanaethau. Daw 31% o gyllideb y Cyngor o’r Dreth Gyngor.