Cost of Living Support Icon

 

Mae casgliadau ailgylchu ar wahân yn dod i Benarth, Sili, Llandochau a Dinas Powys 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno system gwahanu deunydd ailgylchu yn y tarddle i Benarth, Sili, Llandochau, Dinas Powys a'r ardaloedd cyfagos o 17 Ebrill ymlaen.

 

  • Dydd Mercher, 01 Mis Mawrth 2023

    Bro Morgannwg



Bydd hyn yn golygu y gellir ailgylchu mwy o'r deunydd sy'n cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd, gan leihau effaith niweidiol gwastraff domestig ar yr amgylchedd naturiol.


Separated Recycling April 2023 CYA hithau eisoes ar waith mewn ardaloedd eraill yn y Fro, bydd y system newydd yn gofyn i breswylwyr ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu mewn cynwysyddion gwahanol.


O ddydd Llun 6 Mawrth, bydd y Cyngor yn dechrau darparu cadis llwyd ar gyfer ailgylchu gwydr, bagiau gwyn ar gyfer ailgylchu papur a bagiau oren ar gyfer ailgylchu cardbord i breswylwyr yn yr ardaloedd y mae'r newidiadau yn effeithio arnynt. 


Dylai preswylwyr eisoes fod yn defnyddio bag glas mawr ar gyfer eu gwastraff ailgylchu. Dylid cadw'r cynhwysydd hwn a'i ddefnyddio i ailgylchu rhai plastigion a metel, fel tuniau, o dan y system newydd.


Bydd taflenni sy'n egluro'r newidiadau a sut i ailgylchu o dan y system newydd yn cael eu darparu i bob cartref y bydd y cynwysyddion newydd yn effeithio arnynt.


Mae'r Cyngor hefyd yn cyflwyno gwasanaeth ailgylchu newydd ar gyfer batris ac eitemau trydanol bach. Bydd bag bach gwyn ar gyfer batris yn cael ei ddanfon i bob cartref ledled Bro Morgannwg. Dylai eitemau trydanol bach gael eu gosod yn llac ar ben cadis ailgylchu. 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau: "Mae casglu gwastraff ailgylchu fel hyn yn golygu y gellir ailgylchu cyfran uwch ohono yma yn y DU, sy'n well i'r amgylchedd ac yn fwy cost-effeithiol. Mae'r Cyngor wedi cyflwyno'r gwasanaeth hwn mewn ardaloedd eraill yn y Fro ac mae cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu o ganlyniad.


"Bydd y Cyngor yn ymweld â'r cymunedau lle mae'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno dros yr wythnosau nesaf. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth newydd hwn i ddod i siarad â swyddogion neu fynd ar wefan y Cyngor i gael mwy o wybodaeth."

Bydd fflatiau ac adeiladau fflatiau sydd â mannau casglu gwastraff cymunedol ac ailgylchu yn parhau â'r system ailgylchu gyfunol bresennol.


Gall preswylwyr sy'n byw ar eu pennau eu hunain wneud cais am fag cwad, a fydd yn eu galluogi i wahanu eu gwastraff ailgylchu mewn pedair adran ar wahân mewn un bag. 


Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor: www.bromorgannwg.gov.uk/ailgylchuarwahan