Cost of Living Support Icon

Ailgylchu wedi’i Wahanu 

 

Vale of Glamorgan Recycles Banner

 

Mae Casgliadau Ailgylchu yn newid ym Mro Morgannwg

 

Mae casgliadau ailgylchu wedi’i wahanu ym Mhenarth, Dinas Powys, Llandochau, Sili a'r cyffiniau yn dechrau ar 17 Ebrill 2023. Mae cynwysyddion ailgylchu newydd wedi cael eu danfon i gartrefi yn yr ardaloedd hyn.

 

Os mai mewn fflat gyda biniau cymunedol ar gyfer ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu’r ydych chi’n byw, nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi ar hyn o bryd.

 

 

 

 

Casgliadau: Bob Wythnos

 New Recycling containers

 

Defnyddiwch eich:

  • Cadi llwyd ar gyfer eich  poteli a jariau gwydr
  • Bag oren  ar gyfer eich cardfwrdd
  • Bag glas ar gyfer eich  metelau, plastigion a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak) cymysg
  • Bag gwyn  ar gyfer eich  papur
  • Bag gwyn bach ar gyfer eich  batris o’r cartref
  • Cadi gwyrdd i ddal gwastraff bwyd 

  • Bag gwyrdd i ddal gwastraff gardd 

Rydym yn cyflwyno casgliad ailgylchu newydd am ddim ar gyfer eich eitemautrydanol bach. Os bydd arnoch angen cael gwared ag unrhyw eitemautrydanol bach, gosodwch nhw’n rhydd ar ben un o’ch cadis neu fagiauailgylchu. Peidiwch â’u rhoi mewn unrhyw fath o gynhwysydd, yn cynnwysunrhyw fagiau plastig untro.

 

 

Beth i'w roi yn eich cynwysyddion ailgylchu 

Darganfyddwch pa fath o eitemau cartref y dylech eu rhoi ym mhob un o'ch cynwysyddion:

 

  • Cadi Llwyd - Poteli a jariau gwydr

    Grey-caddy
    Glass-bottles-and-jars

     

    TickIe, plîs
    • Poteli gwydr, fel y rhai a ddefnyddir i ddal cwrw, gwin a diodydd ysgafn
    • Jariau gwydr, fel y rhai sy’n dal bwyd babanod a sawsiau
    • Poteli nad ydynt ar gyfer bwyd a diod, fel poteli persawr, persawr eillio ac eli wyneb
    Dim diolch
    • Eitemau ceramig neu Tsieina
    • Gwydrau yfed
    • Gwydr fflat, fel cwareli ffenestri
    • Drychau
    • Bylbiau golau
    • Llestri coginio gwydr, fel Pyrex
    • Platiau microdon
    • Fasau
    • Poteli farnais ewinedd
    • Gwydr wedi torri

    Lapiwch yr eitemau hyn yn ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau na chaiff criwiau eu hanafu wrth eu casglu, yna rhowch nhw yn eich bagiau du, neu ewch â nhw i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol.

     

     

    Cofiwch:

    • gwagiwch a rinsiwch eitemau gwydr

    • tynnwch unrhyw gapiau neu gaeadau metel neu phlastig a’u rhoi yn eich bag glas ar gyfer metelau a phlastigion cymysg

     

  • Bag Oren - Cardfwrdd

    Orange-bag
    Cardboard

     

    TickIe, plîs
    • Bocsys cardfwrdd, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer grawnfwydydd, tabledi peiriant golchi llestri, esgidiau, hancesi papur, nwyddau ymolchi, a phast dannedd
    • Tiwbiau papur toiled
    • Cartonau wyau
    • Llewys cardfwrdd a ddefnyddir i ddal bwydydd, yn cynnwys prydau parod a phecynnau aml-becyn
    • Cardiau cyfarch heb fathodynnau, rhubanau, ffoil neu lwch llachar arnynt
    • Cefnau cardfwrdd o becynnau batris a brwshys dannedd
    • Bocsys ac amlenni cardfwrdd o ddanfoniadau siopa ar-lein
    • Papur brown a llwyd
    Dim diolch
    • Cardfwrdd sydd wedi’i halogi â bwyd, olew, saim neu baent, fel bocsys pizza. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Cardiau cyfarch sydd â bathodynnau, rhubanau, ffoil neu lwch llachar na ellir ei dynnu oddi arnynt. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Papur lapio. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Polystyren. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Cartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak, fel y rhai sy’n dal sudd ffrwythau, llaeth a chawl. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bag glas ar gyfer metelau a phlastigion cymysg

     

     

    Cofiwch:

    • fflatiwch eich cardfwrdd a’i dorri’n ddarnau llai i sicrhau ei fod yn ffitio yn eich bag

    • cadwch gardfwrdd yn sych

     

  • Bag glas - ar gyfer eich metelau, plastigion a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak) cymysg

    Blue-bag
    Plastic-tins-and-cans

     

    TickIe, plîs
    • Caniau diodydd, fel y rhai sy’n dal cwrw a diodydd ysgafn
    • Tuniau bwyd, fel y rhai sy’n dal ffa a chawl
    • Tuniau siocled a bisgedi metel, a’u caeadau
    • Erosolau gwag
    • Haenau a thybiau ffoil glân
    • Cartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak, fel y rhai sy’n dal sudd ffrwythau, llaeth a chawl
    • Poteli gofal croen a nwyddau ymolchi plastig, fel y rhai sy’n dal sebon dwylo, sebon corff, gel cawod, siampŵ, cyflyrydd gwallt a swigod bath
    • Poteli nwyddau glanhau plastig, fel y rhai sy’n dal cannydd, hylif golchi llestri, hylif golchi dillad, a chyflyrydd ffabrig, a thybiau sy’n dal capsiwlau a thabledi golchi dillad
    • Poteli diodydd plastig, fel y rhai sy’n dal diodydd ysgafn, llaeth a dŵr
    • Potiau plastig, fel potiau hufen ac iogwrt
    • Tybiau plastig, fel potiau menyn, marjarîn, siocled, losin a hufen iâ
    • Tybiau plastig fel y rhai sy’n dal teisenni, myffins a chig
    • Potiau plastig, fel y rhai sy’n dal ffrwythau a llysiau
    • Tybiau a chaeadau plastig o’r tecawê
    • Poteli plastig o’ch garej, tŷ gwydr neu sied, fel poteli bwyd planhigion nad ydynt yn wenwynig
    Dim diolch
    • Bagiau a deunydd lapio plastig
    • Pecynnau creision
    • Deunydd lapio losin ffoil
    • Pecynnau ffoil wedi’u lamineiddio sy’n dal bwyd a diod fel coffi, sudd, reis, bwyd babanod neu fwyd anifeiliaid
    • E-sigarennau a ‘vapes’ a’u batris. Ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol, os gwelwch yn dda
    • Rhwydi a ddefnyddir fel pecynnau ffrwythau a llysiau
    • Bagiau bwyd sych cathod a chwn
    • Bagiau compost a phridd i’r ardd
    • Pecynnau swigod, hynny yw, y pecynnau plastig a ddefnyddir i ddal tabledi a chapsiwlau
    • Brwshys dannedd a thiwbiau past dannedd
    • Raseli plastig
    • Plastigion caled, fel cadeiriau o’r ardd, teganau plant, biniau o’r gegin, powlenni golchi llestri, potiau blodau a chynwysyddion Tupperware
    • Tanwyr
    • Poteli nwy

     

     

    Cofiwch:

    • tynnwch unrhyw bympiau o boteli nwyddau ymolchi a’u rhoi yn eich bagiau du

    • tynnwch unrhyw haenen blastig neu badiau amsugnol a’u rhoi yn eich bagiau du

    • gwagiwch a rinsiwch eitemau metel a phlastig

    • gwasgwch eitemau metel a phlastig yn ddiogel i’w gwneud yn llai, os yw’n bosibl

    • sicrhewch fod erosolau’n wag

    • sicrhewch fod ffoil yn lân

     

  • Bag Gwyn - Papur

    White-bag
    Paper

     

    TickIe, plîs
    • Llythyrau
    • Amlenni, gyda ffenestri neu heb
    • Cylchgronau
    • Papurau newydd
    • Llyfrynnau a chatalogau
    • Papur argraffydd
    • Symiau bach o bapur wedi’i rwygo’n fân, fel derbynebau a biliau’r cartref
    Dim diolch
    • Papur cegin, tyweli papur, a hancesi papur. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Cardiau crafu. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Papurau gludiog fel nodiadau Post-it, labeli gludiog a thâp papur. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Papur wal. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Papur lapio. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Papur wedi’i halogi â bwyd, olew, saim neu baent. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Papur gwlyb o unrhyw fath. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Papur brown neu lwyd. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bag oren ar gyfer cardfwrdd

     

     

    Cofiwch:

    • cadwch bapur yn sych

     

  • Bag gwyn bach ar gyfer eich  batris o’r cartref
    Small white bag - household batteries
    Small white bag waste

     

    TickIe, plîs
    • Batris o’r cartref, fel rhai AAA, AA, B, C, D, DD a 9V
    Dim diolch
    • Batris ‘botwm’ lithiwm-ïon, fel y rhai a ddefnyddir mewn cyfrifianellau, dyfeisiau cymorth clyw, a watshis
    • E-sigarennau a ‘vapes’ a’u batris
    • Batris y gellir eu gwefru o liniaduron, ffonau symudol, tw^ ls trydan a sugnwyr llwch
    • Batris ceir
    • Teclynnau gwefru batris

    Ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol, os gwelwch yn dda.
  • Cadi Gwyrdd - Gwastraff bwyd

    Food-waste-caddy
    Food-waste

     

    TickIe, plîs
    • Hen fagiau te a gwaddodion coffi
    • Plisg wyau
    • Crafion ffrwythau a llysiau
    • Cig a physgod amrwd ac wedi’u coginio, yn cynnwys esgyrn a chregyn
    • Crafion oddi ar eich plât
    • Bwyd dros ben na ellir ei storio’n ddiogel i’w fwyta’n nes ymlaen
    • Bwyd nad yw’n ddiogel i’w fwyta bellach
    • Bwyd anifeiliaid
    Dim diolch
    • Deunydd pacio o unrhyw fath
    • Hylifau fel llaeth. Cewch arllwys symiau bach o fwyd hylifol neu ddiod i lawr y sinc, yn ddelfrydol ynghyd ag ychydig o ddw^ r i sicrhau bod y gwastraff yn llifo i ffwrdd yn hawdd, heb flocio’r draeniau
    • Olewau neu fraster hylifol. Ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol mewn cynhwysydd addas
    • Unrhyw ddeunydd nad yw’n wastraff bwyd

    Os bydd angen ichi gael gwared ar unrhyw fraster sy’n solid neu ddim ond yn rhannol hylifol, rhowch y rhain yn eich bagiau du.

     

     

    Cofiwch:

    • pan fyddwch ar fin rhedeg allan o’r bagiau leinio ar gyfer eich cadi gwastraff bwyd yn y gegin, clymwch un ar handlen eich cadi mwy ar garreg y drws ar eich diwrnod casglu, a bydd ein criwiau’n gosod rholyn newydd o fagiau leinio wrth ei ymyl. Cewch hefyd gasglu bagiau leinio cadi o’ch llyfrgell leol

     

  • Bag Gwyrdd - Gwastraff gardd

    Green-bag
    Garden-waste

     

    TickIe, plîs
    • Gwair, dail a’r rhan fwyaf o chwyn
    • Planhigion a blodau
    • Toriadau llwyni a thorion gwrychoedd
    • Gwelyau anifeiliaid o ddeunyddiau fel gwair, gwellt, neu siafins pren a ddefnyddir gan anifeiliaid nad ydynt yn bwyta cig
    Dim diolch
    • Pridd, cerrig neu foncyffion. Ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol, os gwelwch yn dda
    • Chwyn ymledol fel Canclwm Japan. Trefnwch i gontractwr arbenigol ddod i gasglu hwn a chael gwared arno’n ddiogel
    • Unrhyw ddodrefn o’r ardd, boed yn blastig neu’n bren. Ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol, os gwelwch yn dda
    • Baw anifeiliaid neu bobl. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du
    • Gwelyau anifeiliaid a ddefnyddir gan anifeiliaid sy’n bwyta cig. Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du

     

     

    Cofiwch:

    • rydym yn casglu gwastraff o’r ardd rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd

    • gellir ‘galw a gofyn’ am wasanaeth rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror, os bydd angen un arnoch

     

 

Ailgylchu A-Y

Os nad ydych chi’n siŵr ble i roi rhai eitemau, ewch i fwrw golwg ar y daflen wybodaeth y byddwn yn ei rhoi ichi gyda’ch cynwysyddion newydd, neu gallwch ddefnyddio ein canllaw A i Y defnyddiol. Mae’n gadael ichi chwilio am eitem ac fe fyddwn yn dweud wrthych sut i’w ailgylchu neu gael gwared arno’n gywir.

 

A-Y Ailgylchu 

 

Newidiadau i’ch casgliadau ailgylchu – Cwestiynau cyffredin

 

  • Beth sy’n newid?

    O ddydd Llun 17 Ebrill 2023:

     

    bydd angen ichi ddidoli eich eitemau ailgylchadwy i wahanol gynwysyddion. Rydym wedi rhoi’r cynwysyddion hyn ichi:

     

    o   cadi llwyd newydd ar gyfer eich poteli a jariau gwydr,

    o   bag oren newydd ar gyfer eich cardfwrdd, a

    o   bag gwyn newydd ar gyfer eich papur.

     

    defnyddiwch eich bag glas presennol ar gyfer eich metelau cymysg, plastigion a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak). Os nad oes gennych fag glas ar hyn o bryd, cewch gasglu un o’ch llyfrgell leol, neu gallwch gysylltu â ni.

     

    rydym yn cyflwyno casgliad ailgylchu newydd am ddim ar gyfer eich batris. Rydym wedi rhoi bag bach gwyn newydd ichi ar gyfer eich batris o’r cartref.

     

    rydym yn cyflwyno casgliad ailgylchu newydd am ddim ar gyfer eich eitemau trydanol bach. Os bydd arnoch angen cael gwared ag unrhyw eitemau trydanol bach, gosodwch nhw’n rhydd ar ben un o’ch cadis neu fagiau ailgylchu. Peidiwch â’u rhoi mewn unrhyw fath o gynhwysydd, yn cynnwys unrhyw fagiau plastig untro.

  • Pa bryd fydd y newidiadau hyn yn digwydd?

    Mae’r newidiadau hyn wedi bod yn cael eu cyflwyno fesul cam ar draws ardal yr awdurdod lleol.

     

    Digwyddodd y newidiadau yn y Fro Wledig yn 2019 ac yn y Barri yn 2020.

     

    Dyma drydydd cam y broses o gyflwyno’r newidiadau, a’r olaf, ac mae’n effeithio ar breswylwyr Penarth, Dinas Powys, Llandochau, Sili a’r ardaloedd cyfagos, a bydd yn weithredol o ddydd Llun 17 Ebrill 2023.

     

    Os mai mewn fflat gyda biniau cymunedol ar gyfer ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu’r ydych chi’n byw, nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi ar hyn o bryd.
  • Pam ydych chi’n gwneud y newidiadau hyn?

    Trwy gasglu eich ailgylchu mewn cynwysyddion ar wahân, mae’n gwella ansawdd yr ailgylchu a gasglwn gennych. Mae hyn yn golygu bydd mwy ohono’n aros yn y Deyrnas Unedig i gael ei ailgylchu, sy’n well i’r amgylchedd.

     

    Trwy gyflwyno casgliadau newydd ar gyfer eich batris ac eitemau trydanol bach, bydd yn ei gwneud yn haws fyth ichi ailgylchu mwy fyth o’ch gwastraff o gartref.

     

    Mae’n unol â’r dull a argymhellir ar gyfer yr holl gasgliadau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu ledled Cymru a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn ein helpu i gyrraedd ei darged o ailgylchu 70% o’n holl wastraff erbyn 2025.

     

    Mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau hyn eisoes wedi’u cyflwyno mewn rhannau eraill o Fro Morgannwg, ac rydym wedi gweld cynnydd yn swm yr ailgylchu a gaiff ei gasglu yn yr ardaloedd hynny, ynghyd â chynnydd yn ei ansawdd.

  • A fydd fy niwrnod casglu’n newid?
    Ni fydd eich diwrnod casglu’n newid.
  • A fyddaf yn derbyn cynwysyddion newydd?

    Rhwng dydd Llun 6 Mawrth a dydd Gwener 14 Ebrill 2023, byddwn yn danfon cynwysyddion newydd i’ch cartref. Mae’r rhain yn cynnwys:  

    • cadi llwyd newydd ar gyfer eich poteli a jariau gwydr,  
    • bag oren newydd ar gyfer eich cardfwrdd,  
    • bag gwyn newydd ar gyfer eich papur, a
    • bag bach gwyn newydd ichi ar gyfer eich batris o’r cartref.

     

    Defnyddiwch eich bag glas presennol ar gyfer eich metelau cymysg, plastigion a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak). Os nad oes gennych fag glas ar hyn o bryd, cewch gasglu un o’ch llyfrgell leol, neu gallwch gysylltu â ni.  

     

    Os bydd arnoch angen cael gwared ag unrhyw eitemau trydanol bach, gosodwch nhw’n rhydd ar ben un o’ch cadis neu fagiau ailgylchu. Peidiwch â’u rhoi mewn unrhyw fath o gynhwysydd, yn cynnwys unrhyw fagiau plastig untro.

     

    Daliwch ati i ddefnyddio eich cadi gwyrdd presennol ar gyfer eich gwastraff bwyd a’ch bag gwyrdd presennol ar gyfer eich gwastraff o’r ardd.

  • Mae fy nghymdogion wedi derbyn eu cynwysyddion newydd; pam nad ydw i wedi cael rhai?

    Mae’n bosibl bod tai sydd dros y ffordd neu ymhellach i lawr y stryd ar lwybrau danfon gwahanol, sy’n golygu y gallech dderbyn eich cynwysyddion newydd ar adegau gwahanol neu ar ddyddiau gwahanol.

     

    Byddwn yn danfon eich cynwysyddion ailgylchu newydd i’ch cartref rhwng dydd Llun 6 Mawrth a dydd Gwener 14 Ebrill 2023.  

  • Beth ddylwn ei wneud os na fyddaf yn derbyn fy nghynwysyddion ailgylchu newydd erbyn dydd Gwener 14 Ebrill 2023?

    Dylech dderbyn eich cynwysyddion ailgylchu newydd a thaflen wybodaeth erbyn dydd Gwener 14 Ebrill, ond os na fyddwch wedi’u cael, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.
  • Sut ddylwn i gyflwyno fy ailgylchu a fy ngwastraff na ellir ei ailgylchu?

    • Rhowch yr eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir
    • Clymwch eich bagiau leinio cadi gwastraff bwyd a’ch bagiau du yn dynn
    • Caewch y fflapiau a’r caeadau ar eich bagiau a chadis
    • Defnyddiwch y bagiau, cadis a bagiau leinio gwastraff bwyd a ddarparwyd gan y Cyngor yn unig ar gyfer eich ailgylchu. Peidiwch â defnyddio unrhyw fath arall gynhwysydd, yn cynnwys unrhyw fagiau plastig untro
    • Rhowch eich cynwysyddion yn eich man casglu cyn 7yb ar eich diwrnod casglu
    • Casglwch eich bagiau a chadis o’ch man casglu unwaith y byddwn wedi’u gwagio
    • Mae angen leinio cadis hylendid gyda sach sbwriel du ar gyfer gwastraff hylendid a'u clymu a'u cyflwyno wrth ymyl y ffordd i'w casglu ar y diwrnod casglu priodol.
  • Beth ddylwn ei wneud â bagiau a deunyddiau lapio plastig?

    Os bydd angen ichi gael gwared ar unrhyw fagiau neu ddeunydd lapio plastig, caiff yr eitemau hyn eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd. Ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk i ddod o hyd i’ch cyfleuster agosaf.

     

    Mae’n bosibl bydd y mathau o eitemau a dderbynnir yn amrywio o un lleoliad i’r llall, felly dilynwch y canllawiau a roddir gan y sefydliad sy’n rheoli’r man ailgylchu, os gwelwch yn dda.  

     

    Os na allwch fynd â’r eitemau hyn i un o’r cyfleusterau hyn a bod angen ichi gael gwared arnynt gartref, yna rhowch nhw yn eich bagiau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

     

    Mae bagiau a deunyddiau lapio plastig yn cynnwys:

    • Bagiau plastig a Bagiau am Oes
    • Bagiau ffrwythau, salad a llysiau wedi’u pacio’n barod
    • Bagiau plastig tenau ar gyfer eitemau ffrwythau, salad a llysiau rhydd
    • Haenau plastig fel haenen lynu, caeadau prydau parod neu gaeadau potiau iogwrt
    • Bagiau rhewgell
    • Bagiau bwyd rhewgell
    • Bagiau pasta a reis
    • Bagiau bara
    • Bagiau lapio cylchgronau a phapurau newydd
    • Deunydd lapio pecynnau aml-becyn a’r dolenni plastig oddi ar becynnau aml-becyn o boteli a chaniau
    • Bagiau leinio bocsys grawnfwyd
    • Deunydd lapio o becynnau papur toiled a phapur cegin
    • Bagiau sych lanhawyr a bagiau sy’n gorchuddio dillad newydd
    • Bagiau parseli a swigod lapio
    • Tâp pacio a thâp gludiog
    • Pecynnau creision a bisgedi  
    • Pecynnau neu ‘godenni’ ffoil wedi’i lamineiddio, fel y rhai sy’n dal coffi, sudd, reis, bwyd babanod neu fwyd anifeiliaid anwes

     

    Peidiwch â rhoi bagiau a deunydd lapio plastig yn eich bag glas ar gyfer metelau a phlastigion cymysg.

  • Beth sy’n digwydd i fy ailgylchu unwaith y byddwch wedi’i gasglu?

    I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu unwaith y byddwn wedi’i gasglu, ac i ble mae’n mynd, ewch i www.fyailgylchucymru.org.uk.  

     

    I ddarganfod beth mae’ch ailgylchu’n cael ei ddefnyddio i’w wneud, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk.
  • Beth gaf ei wneud gyda fy hen gynwysyddion ailgylchu?

    Cewch barhau i ddefnyddio eich bag glas presennol i ailgylchu symiau ychwanegol o’r eitemau canlynol:

     

    • caniau a thuniau metel, erosolau a ffoil,
    • poteli, potiau a thybiau plastig, a
    • cartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak).

     

    Cewch hefyd barhau i ddefnyddio eich bocs gwyrdd presennol i ailgylchu unrhyw boteli a jariau gwydr ychwanegol.

  • Sut allaf i archebu cynwysyddion ailgylchu newydd os caiff fy rhai i eu difrodi neu os ydynt yn torri?

    I archebu cynwysyddion ailgylchu newydd yn lle hen rai, cysylltwch â ni.
  • O ble gallaf i gasglu rhagor o fagiau leinio cadi gwastraff bwyd?

    Pan fyddwch ar fin rhedeg allan o’r bagiau leinio ar gyfer eich cadi gwastraff bwyd yn y gegin, clymwch un ar handlen eich cadi mwy ar garreg y drws ar eich diwrnod casglu, a bydd ein criwiau’n gosod rholyn newydd o fagiau leinio wrth ei ymyl. 


    Cewch hefyd gasglu bagiau leinio cadi o’ch llyfrgell leol

  • Os byddaf i’n mudo, a ddylwn fynd â fy nghynwysyddion ailgylchu gyda mi? 

    Na. Os byddwch yn mudo i gartref arall ym Mro Morgannwg, dylai’r preswylwyr blaenorol fod wedi gadael eu cynwysyddion ailgylchu yn yr eiddo. Ond os byddwch yn cyrraedd eich cartref newydd, neu yn mynd i fyw mewn datblygiad o dai newydd, ac nad ydych yn gallu dod o hyd i’r cynwysyddion ailgylchu ar gyfer yr eiddo, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.
  • Rwy’n derbyn ‘casgliad â chymorth’ ar hyn o bryd. A fydd hyn yn parhau?

    Bydd. Os ydych chi’n derbyn ‘casgliad â chymorth’ ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn i chi. Ni fydd angen ichi gofrestru o’r newydd i dderbyn y gwasanaeth hwn.
  • Allaf i ddim rhoi fy ailgylchu a fy ngwastraff na ellir ei ailgylchu allan i chi ei gasglu.Allwch chi fy helpu gyda hyn, os gwelwch yn dda?

    Os ydych chi’n methu rhoi eich ailgylchu a’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu allan i ni ei gasglu oherwydd bod eich symudedd wedi’i gyfyngu arno, dros dro neu’n barhaol, ac nad oes neb arall i’ch helpu, cewch gysylltu â ni i wneud cais am ‘gasgliad â chymorth’ a byddwn yn asesu eich sefyllfa.

     

    ‘Casgliad â chymorth’ yw pan fo’n criwiau’n casglu eich ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu o fan casglu a gytunwyd arno sy’n gyfleus ac yn hawdd i chi ei gyrraedd.

  • Dim ond ychydig bach o ailgylchu rwy’n ei greu.A oes rhaid imi ddefnyddio’r holl gynwysyddion newydd?

    Os mai dim ond ychydig bach o ailgylchu’r ydych chi’n ei greu, efallai y byddech yn elwa o gyfnewid eich cynwysyddion newydd am ‘fag cwad’ unigol. Un bag ailddefnyddiadwy gyda phedair poced yw hwn:

     

    • un i’ch poteli a jariau gwydr,
    • un i’ch metelau cymysg, plastigion a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak),
    • un i’ch cardfwrdd, ac
    • un i’ch papur.

     

    Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

     

    Os fyddwn yn danfon y ‘bag cwad’ newydd hwn i’ch cartref, byddwn yn casglu eich bag glas presennol, a’ch cadi llwyd, bag oren a bag gwyn newydd.

     

    Byddwch yn cadw eich bag bach gwyn newydd ar gyfer eich batris o’r cartref.

  • Beth arall allaf i ei ailgylchu gartref?

    I ddarganfod pa wastraff arall y gallwch ac na allwch ei ailgylchu gartref, defnyddiwch ein canllaw A i Y defnyddiol. Mae’n gadael ichi chwilio am eitem ac fe fyddwn yn dweud wrthych sut i’w ailgylchu neu gael gwared arno’n gywir.

  • Mae angen help arnaf i sortio ac ailgylchu fy ngwastraff.Allwch chi fy helpu, os gwelwch yn dda?

    Mae gennym dîm o Swyddogion Ailgylchu, a gallant:

    • roi cyngor ac arweiniad ichi am ein holl wasanaethau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu,
    • eich cefnogi i ailgylchu’r gorau gallwch chi a lleihau eich gwastraff na ellir ei ailgylchu, ac
    • ystyried a allai fod angen ‘lwfans’ ichi roi bag du ychwanegol o wastraff na ellir ei ailgylchu allan i’w gasglu, os ydych chi’n sortio eich gwastraff yn gywir ac yn ailgylchu popeth y gallwch chi.

     

    I drefnu i un o’n Swyddogion Ailgylchu ymweld â chi yn eich cartref, cysylltwch â ni.
  • Rwy’n byw mewn fflat.A yw’r newidiadau hyn yn effeithio arnaf i?

    Os mai mewn fflat ydych chi’n byw, ble’r ydych yn rhoi eich ailgylchu a’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu allan i’w gasglu ar garreg y drws ar hyn o bryd, yna mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi.

     

    Byddwn yn danfon eich cynwysyddion newydd i’ch cartref rhwng dydd Llun 6 Mawrth a dydd Gwener 14 Ebrill, a byddwn hefyd yn rhoi taflen ichi a fydd yn dangos y mathau o eitemau o’r cartref y dylech eu rhoi ym mhob un o’ch cynwysyddion.

     

    Os mai mewn fflat gyda biniau cymunedol ar gyfer ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu’r ydych chi’n byw, nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi ar hyn o bryd.

     

    Pan fydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno ar gyfer eich adeilad chi, bydd y cwmni rheoli eiddo yn cysylltu’n uniongyrchol â chi.

     

    Mae’r newidiadau hyn yn debygol o gael eu cyflwyno yng ngwanwyn/haf 2023.

  • Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi rhywbeth yn y cynhwysydd anghywir yn ddamweiniol?

    Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r eitemau yn y cynwysyddion cywir, ac nad yw eich cynwysyddion ailgylchu’n cynnwys deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Fodd bynnag, rydym yn deall y gall unrhyw un wneud camgymeriad.

     

    Os byddwch yn rhoi cynhwysydd allan sy’n rhy llawn neu’n rhy drwm, neu os bydd yn cynnwys eitemau na ddylent fod ynddo, bydd ein criwiau’n rhoi sticer arno, yn gofyn ichi sortio ei gynnwys yn gywir erbyn eich casgliad nesaf.

     

    Os nad ydych chi’n siŵr ble i roi rhai eitemau, ewch i fwrw golwg ar y daflen wybodaeth y byddwn yn ei rhoi ichi gyda’ch cynwysyddion newydd, neu gallwch ddefnyddio ein canllaw A i Y defnyddiol. Mae’n gadael ichi chwilio am eitem ac fe fyddwn yn dweud wrthych sut i’w ailgylchu neu gael gwared arno’n gywir.

     

    Os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi rhoi rhywbeth yn y cynhwysydd anghywir ar ôl i’ch ailgylchu gael ei gasglu, peidiwch â phoeni – ond ceisiwch gofio ei roi yn y lle cywir y tro nesaf.

  • Sut allaf i adael ichi wybod am gasgliad a fethwyd? 

    Mae’n bosibl y byddwn yn casglu eich ailgylchu a’ch bagiau du ar unrhyw adeg hyd at 9yh ar eich diwrnod casglu.

     

    Os na fyddwn wedi casglu eich ailgylchu neu eich bagiau du erbyn 10yb ar y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu, yna gadewch inni wybod am ‘gasgliad a fethwyd’, os gwelwch yn dda.

     

    Fodd bynnag, os gwelwch sticer ar un neu fwy o’ch cynwysyddion ailgylchu nad ydynt wedi’u gwagio erbyn 9yh ar eich diwrnod casglu, mae’n debygol nad ydym wedi methu’r casgliad, ond yn hytrach, nad ydym wedi gwagio’r cynhwysydd oherwydd bod eitem ynddo na ddylai fod yno.

     

    Os gwelwch sticer ar eich cynhwysydd, ewch â’ch cynhwysydd yn ôl i’ch cartref, sortiwch ei gynnwys, yna rhowch ef allan eto’r wythnos ganlynol i ni ei gasglu.

     

    Os nad ydych chi’n siŵr pa eitem yw’r un anghywir, ewch i fwrw golwg ar y daflen wybodaeth y byddwn yn ei rhoi ichi gyda’ch cynwysyddion newydd, neu gallwch ddefnyddio ein canllaw A i Y defnyddiol. Mae’n gadael ichi chwilio am eitem ac fe fyddwn yn dweud wrthych sut i’w ailgylchu neu gael gwared arno’n gywir.

  • Beth fydd eich criwiau casglu’n ei wneud gyda fy nghynwysyddion ailgylchu unwaith y byddant wedi’u gwagio?

    Rydym wedi darparu hyfforddiant i’n criwiau casglu sy’n cynnwys sut i ddychwelyd eich cynwysyddion ailgylchu’n gywir ar ôl inni gasglu eu cynnwys.

     

    Bydd y criwiau’n plygu eich bagiau gwag ac yn eu rhoi yn eich cadi llwyd (ar gyfer poteli a jariau gwydr), yna’n dychwelyd eich cynwysyddion i’r cwrb y tu allan i’ch cartref.