Cost of Living Support Icon

Newidiadau i Gasgliadau Ailgylchu a Gwastraff 

Yn 2018 buom yn ymgynghori â thrigolion ynghylch y newidiadau arfaethedig i ailgylchu a chasgliadau gwastraff, nid yw'r model gwastraff ac ailgylchu cyfredol a weithredir gan y Cyngor yn gynaliadwy yn y tymor hir.

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn o: 17 Ebrill 2018 - 01 Mehefin 2018.

 

Current-waste-and-recycling-welsh

 

Mae tri phrif reswm pam fod angen i ni symud oddi wrth wastraff ailgylchadwy cymysg:

  • Ansawdd - pan fo gwastraff ailgylchadwy cymysg yn cael ei gasglu mae’r deunyddiau yn cael eu cywasgu ynghyd ac yn aml eu difrodi. Mae hyn yn ei wneud yn gynnyrch is ei ansawdd ar gyfer ailgylchu ac felly yn llai tebygol o gael ei ailgylchu yma yn y DU. Rydym ar hyn o bryd yn talu ffi i’r gwastraff gael ei ddidoli ac mae peth o’r nwyddau plastig a chardfwrdd yn mynd cyn belled â Tsieina ac Indonesia cyn iddo gael ei ailgylchu am ei fod o ansawdd mor wael.

  • Dyletswydd Gyfreithiol - mae dyletswydd gyfreithiol arnom i ddidoli’r ailgylchu. Nid yw gwastraff ailgylchadwy cymysg yn cydymffurfio â Llywodraeth Cymru Mae hefyd yn gyfarwyddyd gan yr UE i gasglu ailgylchu a ddidolwyd yn ei ffynhonnell.

  • Cost - mae’n fwy dichonadwy yn ariannol i gasglu ailgylchu a ddidolwyd yn ei ffynhonnell am ei fod yn cynnig cynnyrch o ansawdd well sydd yn fwy tebygol o gael ei brynu yma yn y DU. Ar ben hynny, erbyn 2024/25 bydd gofyn i’r Cyngor gwrdd â tharged newydd Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o wastraff. Bydd methu a gwneud yn arwain at ddirwyon. A bydd Llywodraeth Cymru ond yn darparu cyllid cyfalaf i’r rhai hynny sydd yn casglu ailgylchu a ddidolwyd yn ei ffynhonnell. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu ni i wneud y newidiadau sydd eu hangen ar ein fflyd ailgylchu a gwastraff yn ogystal â darparu cynwysyddion a fydd yn hwyluso ailgylchu wedi ei ddidoli. 

 

Am ragor o wybodaeth am y rhesymau dros y newid hwn, gweler yr Adroddiadau Cabinet: