Cost of Living Support Icon

Ymgynghoriad Celf

Adolygiad o Wasanaeth Celf y Cyngor ac ymgynghoriad ar y ffordd o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn o ddydd Llun 3 Chwefror tan ddydd Llun 23 Mawrth 2020.  

 

Cefndir

Mae angen i'r Cyngor ystyried sut a ble y cyflenwir gwasanaethau celf i wella hyblygrwydd ac addasrwydd yn y dyfodol yn unol â’r Strategaeth Gelf ac i leihau costau rhedeg i’r Cyngor. 

 

Mae tair elfen i’w hystyried yn rhan o’r ymgynghoriad hwn, a dyma nhw. 

 

Elfen 1 - Cyflawni amcanion y Strategaeth Gelf

Mae'r elfen ymgynghori hon yn ceisio nodi cyfleoedd ar gyfer gwasanaeth celf mwy cynaliadwy a chynhwysol yn unol ag amcanion y Strategaeth Gelf. Mae gan y strategaeth y nod o gynyddu gweithgarwch celfyddydol ym Mro Morgannwg a datblygu cyfleoedd newydd i greu rhaglen gelfyddydol i’r unfed ganrif ar hugain sy’n atgyfnerthu ymdeimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a pherthyn, ac i sicrhau bod cyfleoedd ymgysylltu â’r celfyddydau a’r diwylliant ar gael ac yn hygyrch i holl drigolion ac ymwelwyr â Bro Morgannwg.

 

Elfen 2 - Sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy ac yn niwtral o ran cost i'r Cyngor

Mae’r elfen ymgynghori hon yn ystyried cyfleoedd i leihau costau a/neu gynyddu’r incwm fel y bydd y gwasanaeth yn gweithredu ar sail niwtral o ran cost.

 

Elfen 3 - Nodi sut y gellid defnyddio Oriel Gelf Ganolog yn y dyfodol

Bydd yr elfen hon o'r ymgynghoriad yn ystyried sut y byddai'r Oriel Gelf Ganolog yn cael ei defnyddio yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried y posibilrwydd i’r gofod fynd dros ben i ofynion y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ac yn edrych ar ddefnyddiau amgen posibl. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rhesymau dros yr ymgynghoriad hwn, ewch i Adroddiad Cabinet.

  

Dweud eich dweud

Gwahoddir trigolion a rhanddeiliaid allweddol i ddweud eu dweud ar yr ymgynghoriad hwn naill ai drwy:

 

  • gwblhau arolwg ar-lein;
  • cwblhau copi caled o'r arolwg sydd ar gael i'w lawrlwytho neu o Lyfrgell y Barri; neu
  • fynegi eich barn yn ysgrifenedig, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Yn ogystal, cynhelir cyfarfodydd gydag aelodau staff a’r Grŵp Cyfeillion Oriel Gelf Ganolog drwy gydol yr ymgynghoriad. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gyflwyno eich barn yn ysgrifenedig, cysylltwch â ni drwy'r cyfeiriad e-bost isod. Caiff eich e-bost ei gyfeirio at y swyddogion perthnasol i’w ystyried.