Cost of Living Support Icon

Gwelliannau Arfaethedig i Barc Canolog, y Barri 

Mae'r Cyngor yn bwriadu defnyddio arian a106 gan ddatblygiadau cyfagos i uwchraddio cyfleusterau ym Mharc Canolog y Barri

 

Cefndir

Mae’r Parc Canolog yn barc mawr y tu ôl i Lyfrgell y Barri a maes parcio Wyndham Street yng nghanol tref y Barri. Ar hyn o bryd mae yno ardal chwarae, cwrt pêl fasged a lloches ieuenctid yn ogystal â meinciau.    

 

Mae'r Cyngor wedi cael £144,000 gan ddatblygiadau cyfagos i uwchraddio mannau agored cyhoeddus ac mae wedi nodi’r Parc Canolog fel ardal y mae angen ei gwella.

 

Cynigion 

Mae’r Cyngor yn cynnig:

  • uwchraddio ac ehangu'r ardal chwarae bresennol;

  • uwchraddio'r ardal gemau aml-ddefnydd;

  • gosod uned chwarae 'Sona' ryngweithiol;

  • amnewid gatiau’r ardal chwarae;

  • gosod biniau a seddi newydd a gorsaf ail-lenwi dŵr;

  • gwaredu’r lloches ieuenctid ac estyn yr ardal chwarae; a

  • gwella cyfleusterau ar gyfer cynnal digwyddiadau yn y parc.  

 

Dweud eich dweud

Hoffem gael barn trigolion lleol ar y cynigion hyn. Gallwch ddweud wrthym beth yw eich barn chi naill ai drwy:

*Dewiswch fersiwn Gymraeg y ffurflen adborth trwy glicio ar y gwymplen iaith yng nghornel dde uchaf y sgrin.

 

Ymatebwch erbyn 20 Mawrth, os gwelwch yn dda.