Cost of Living Support Icon

Uwchraddio Ardal Chwarae Cosmeston 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn buddsoddi £240,000 i wella'r ardal chwarae ym Mharc Gwledig Cosmeston

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng dydd Llun 16 Mawrth - dydd Gwener 17 Ebrill. Rydym bellach wedi cau'r arolwg a byddwn yn ystyried ymatebion trigolion lleol cyn cwblhau'r cynlluniau ar gyfer yr ardal chwarae newydd.

 

Mae'r ardal chwarae ym Mharc Gwledig Cosmeston mewn cyflwr gwael. Mae llawer o'r offer presennol mewn cyflwr gwael iawn ac mae angen ei uwchraddio ar frys.

 

Mae'r Cyngor yn cynnig:

  • Tynnu'r offer chwarae a'r wyneb presennol (gellir cadw'r uned siglen Viper)

  • Dylunio ardal chwarae newydd gyda thema Ganoloesol gan ddefnyddio ystod o offer wedi'i wneud o bren a metel sy'n addas ar gyfer plant rhwng 2 - 12 oed

  • Gosod seddi, byrddau picnic a biniau newydd

  • Gosod ffensys newydd o amgylch yr ardal chwarae

  • Plannu coed, llwyni neu ddôl blodau gwyllt newydd

  • Ail-wynebu'r y llwybr sy'n arwain at yr ardal chwarae

  • Cynnwys ardal ar gyfer cyfleusterau lluniaeth bach

 

Hoffem gael adborth gan drigolion lleol ac ymwelwyr â'r Parc am y cynigion uchod. Rydym hefyd yn gwahodd eich syniadau a'ch awgrymiadau am offer a thema'r ardal chwarae. Gweler y darlun ymgynghoriad isod ar gyfer syniadau ac awgrymiadau ar beth gellir ei wneud i uchwraddio'r ardal chwarae. 

 

Darlun Ymgynghoriad Ardal Chwarae Cosmeston 

 

Cwblhewch ein arolwg i rannu eich barn gyda ni. Bydd copïau caled o'r arolwg hwn ar gael o'r dderbynfa ym mharc gwledig cosmeston.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r prosiect hwn, cysylltwch â ni.

 

Y gobaith yw y bydd y gwaith i uwchraddio'r ardal chwarae yn cael ei wneud yn Hydref 2020.