Cost of Living Support Icon

Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus Ddrafft

Mae'r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus ddrafft yn manylu ar y camau a gymerir gan y Cyngor i annog a hwyluso'r holl randdeiliaid i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. 

Beth yw cyfranogiad cyhoeddus?

Gall cyfranogiad cyhoeddus fod yn unrhyw broses sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cyhoedd o ran sut y gwneir penderfyniadau ac sy'n ystyried sut mae'r cyhoedd yn cyfrannu at y broses o wneud y penderfyniadau hynny. Proses yw cyfranogiad cyhoeddus, nid un digwyddiad.


Mae'n cynnwys cyfres o weithgareddau a chamau dros oes prosiect i hysbysu'r cyhoedd a chael mewnbwn ganddynt. Mae cyfranogiad cyhoeddus yn rhoi cyfle i randdeiliaid (y rhai sydd â diddordeb neu fuddiant mewn mater, megis unigolion, grwpiau buddiant, cymunedau) ddylanwadu ar sut y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a'u cymuned.


Mae cyfranogiad cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwell canlyniadau i'r Cyngor a rhanddeiliaid. 


Pan gaiff ei wneud mewn ffordd ystyrlon, mae cyfranogiad cyhoeddus yn arwain at well dealltwriaeth o ffeithiau, gwerthoedd a safbwyntiau ychwanegol a gafwyd drwy fewnbwn cyhoeddus – i ddwyn i'r broses benderfynu ac i lywio sut mae'r sefydliad yn gweithio.

 

Beth yw'r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus?

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn dymuno annog yr holl randdeiliaid i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau drwy helpu i benderfynu beth yw pwrpas y penderfyniadau, deall y materion a datblygu atebion mewn ffordd gyd-ddyluniol a chydgynhyrchiol.


Mae rhanddeiliaid y Cyngor yn cynnwys dinasyddion, busnesau, ymwelwyr ac eraill. Mae'r Cyngor am gymryd camau i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, yn enwedig y rhai o grwpiau nas clywir yn aml a phobl ifanc hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan.


Mae'r Cyngor yn cydnabod nad oes dull sy'n addas i bawb o ymgysylltu ag ystod mor eang o randdeiliaid. Fel rhan o'n hymrwymiad, byddwn yn amrywiol yn y ffordd yr ydym yn ymgysylltu ac yn cysylltu â gwahanol grwpiau.


Mae'r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd hon yn amlinellu sefyllfa bresennol y Cyngor, yn ogystal â'i nodau byrdymor a hirdymor a sut y bydd y rhain yn cyfrannu at gyflawni’r hamcanion lles.

 

Darllenwch y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus Ddrafft

Dweud eich dweud

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor o 25 Ionawr - 08 Mawrth.


Rhowch wybod i ni am eich syniadau drwy lenwi ein harolwg byr.

 

(I lenwi'r arolwg yn Gymraeg, cliciwch ar yr eicon yn y gornel dde uchaf)


Os na allwch gwblhau ein harolwg ar-lein neu os hoffech gyflwyno adborth manylach, anfonwch e-bost i:consultation@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 700111.