Cost of Living Support Icon

Strategaeth Hybu Pum Mlynedd Ddrafft

Mae'n ofynnol i'r Cyngor lunio a chyhoeddi strategaeth bum mlynedd sy'n nodi sut rydym yn bwriadu hybu’r Gymraeg a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach ym Mro Morgannwg.

 

Cefndir

Mae Safonau'r Gymraeg (safonau 145 a 146) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol:

  • lunio a chyhoeddi strategaeth bum mlynedd sy'n nodi sut y maent yn bwriadu hybu’r Gymraeg a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn eu hardal
  • cynnwys targed ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod o bum mlynedd
  • cynnwys datganiad sy'n esbonio sut mae'r sefydliad yn bwriadu cyrraedd y targed hwnnw 
  • adolygu'r strategaeth a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni ar y wefan o fewn pum mlynedd i ddyddiad cyhoeddi'r strategaeth (neu ddyddiad cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni)
  • ar ôl pum mlynedd, asesu i ba raddau y mae'r Cyngor wedi dilyn y strategaeth honno ac wedi cyrraedd y targed y mae wedi'i bennu
  • cyhoeddi’r asesiad ar y wefan, gan ddangos nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal, ac oed y siaradwyr hynny
  • nodi yn yr asesiad restr o’r gweithgareddau a drefnwyd neu a ariannwyd ganddynt i hybu’r Gymraeg yn ystod y 5 mlynedd blaenorol.

Felly, mae'r Cyngor wedi ymgymryd ag asesiad cychwynnol o'i strategaeth hybu pum mlynedd gyntaf (2017 – 2022) ac wedi llunio strategaeth hybu ddrafft ar gyfer 2022-27.


Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu adborth gan ddinasyddion a rhanddeiliaid allweddol ar ei gynnwys a bwydo i mewn i'r broses o ddatblygu cynllun gweithredu i gyflawni nodau'r strategaeth dros y pum mlynedd nesaf.

 

Mae'r Strategaeth wedi'i strwythuro i gyd-fynd â thair thema strategaeth Cymraeg 2050, sy'n strategaeth tymor hwy o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hyn yn rhywbeth y bydd strategaeth hybu 5 mlynedd y Cyngor, yn ogystal â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) a pholisïau allweddol eraill, yn cyfrannu ato. 

 

Cymerwch ran

 

Mae'r ymgynghoriad hwn nawr wedi cau. Diolch i'r rhai a fu'n ymateb.