Cost of Living Support Icon

 

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro yn cwblhau llunio ei Amcanion Llesiant 2023-28 sydd ar gael ar gwefan ar-lein newydd sbon

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) wedi lansio gwefan newydd sy'n manylu ar ei Gynllun Llesiant am y 5 mlynedd nesaf.

  • Dydd Iau, 11 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Mae’r BGC yn dod ag uwch-arweinwyr ynghyd o sefydliadau'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar draws Bro Morgannwg i weithio mewn partneriaeth.

 

Yr wythnos ddiwethaf, cyfarfu Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, â chydweithwyr BGC er mwyn cwblhau'r Cynllun Llesiant a'r nodau newydd.

 

Dwedodd y Cynghorydd Burnett:  "Mae'r cynllun llesiant hwn yn nodi amcanion a ffocws y BGC dros y pum mlynedd nesaf ac mae'n destament i weithio partneriaeth ledled Bro Morgannwg.

 

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn dod â'r Cynllun hwn ynghyd ac ymrwymo’r amser i roi eu mewnbwn."

 

PSB LogoGellir crynhoi'r uchelgeisiau a'r weledigaeth ar gyfer y Fro fel:  'Cymunedau hapus ac iach yn cydweithio i greu Bro deg a chynaliadwy i bawb’

 

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, bydd y BGC yn gweithio i gyflawni tri phrif Amcan Llesiant:

 

Bro mwy gwydn a gwyrdd - drwy ddeall a gwneud y newidiadau sy'n angenrheidiol fel unigolion, cymunedau a sefydliadau mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

 

Bro mwy actif ac iachdrwy annog a galluogi pobl o bob oed i fod yn fwy actif a hyrwyddo manteision cofleidio ffordd o fyw iachach. 

 

Bro mwy teg a chysylltiedig - drwy fynd i'r afael â'r annhegwch sy'n bodoli ledled y Fro, ymgysylltu â'n cymunedau a darparu gwell cyfleoedd a chefnogaeth i wneud gwahaniaeth parhaol.

 

Bydd y BGC hefyd yn parhau i weithio ar dair ffrwd waith â blaenoriaeth er mwyn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, gweithio gyda phobl sy'n byw yng nghymunedau’r Fro sy'n profi'r lefelau uchaf o amddifadedd, a dod yn Fro sy'n Dda i Bobl Hŷn.