Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn erlyn pâr am greulondeb i anifeiliaid

Mae dau o drigolion y Barri wedi cael eu herlyn am gam-drin cŵn, yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Iau, 16 Mis Tachwedd 2023

    Bro Morgannwg

    Barri



IRoedd yn ymwneud â phryderon bod cŵn, gan gynnwys cŵn bach, yn cael eu cadw mewn amodau gwael iawn mewn tŷ a bod yr eiddo hwn o bosibl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bridio cŵn yn anghyfreithlon.

 

Daeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR), sy'n cyflawni gwaith safonau masnach yn ardaloedd Awdurdod Lleol y Fro, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, â’r achos yn erbyn Dominic Fouracre a Rachel Lewis.

 

dog2

Mae'r ddau’n pledio'n euog i nifer o droseddau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl cadw cŵn mewn amodau erchyll, gan arwain at farwolaeth pump. 


Dedfrydwyd Fouracre i 22 wythnos o garchar wedi'i ohirio am 12 mis, ac fe’i gorchmynnwyd i gyflawni 180 awr o waith di-dâl a chyflawni 10 diwrnod o adsefydlu. 


Dedfrydwyd Lewis i 14 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis, ac mae'n rhaid iddi gwblhau 120 awr o waith di-dâl ac wyth diwrnod o adsefydlu.


Dywedwyd wrth y diffynyddion am dalu costau o £4000 yr un, tra bod Mr Fouracre hefyd wedi’i wneud yn destun Gorchymyn Anghymhwyso, gan ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am wyth mlynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ymgysylltu Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol:  "Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn dilyn misoedd lawer o waith ymchwiliol gofalus gan Swyddogion Iechyd a Lles Anifeiliaid ymroddedig, a hoffwn ddiolch i'r rhai a gyfrannodd am eu hymdrechion.


"Cafodd y cŵn hyn eu cadw mewn amodau echrydus, gan achosi iddynt ddatblygu problemau iechyd difrifol, problemau a oedd yn angheuol mewn rhai achosion. 


"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn anfon neges na fyddwn yn goddef creulondeb ac esgeulustod yn erbyn anifeiliaid, yn enwedig pan fydd materion o'r fath yn codi o arferion bridio cŵn anghyfreithlon. Nid yw'n dderbyniol i les anifeiliaid gael ei anwybyddu mewn ymdrechion i ennill arian. 


“Bydd y GRhR, ar ran y Cyngor, yn ymchwilio i achosion o'r fath ac, os yn briodol, yn erlyn y rhai sy'n gyfrifol hyd eithaf y gyfraith. 


"Hoffwn hefyd ddiolch i Hope Rescue am eu cymorth i ddod â'r troseddwyr hyn o flaen eu gwell ac am y gofal maen nhw’n ei roi i'r cŵn."

dog3

Ym mis Mehefin y llynedd, derbyniodd SRS gŵyn gan Hope Rescue, elusen achub ac ailgartrefu cŵn yn ne Cymru, ynghylch torraid o gŵn bach a gafodd eu cludo i gyfeiriad yn Clive Road, y Barri.


Pan ymwelodd Wardeiniaid Anifeiliaid â'r eiddo, yng nghwmni Heddlu De Cymru, roedd pob rhan o’r eiddo’n arogli’n gas, gyda lloriau, waliau a drysau wedi’u baeddu gyda baw ci.


Roedd un ystafell yn cael ei defnyddio i gartrefu tri chi tarw aeddfed, a oedd yn rhydd, a phum ci bach mewn crât simsan a oedd hefyd wedi’i orchuddio â baw anifeiliaid.


Roedd tair powlen wag, gwelwyd un ci yn bwyta baw ci o'r llawr, tra bod gan sawl un broblemau iechyd gweledol, fel colli gwallt a llygad ceirios – prolaps y chwarren ddagrau o fewn y trydydd amrant.


Daethpwyd o hyd i bedwar ci bach arall mewn blwch esgor i fyny'r grisiau, roedd gan un brolaps rhefrol tua 20cm o faint, roedd gwaed i’w weld yn y gawell, ac eto, nid oedd bwyd na dŵr ar gael. 


Cafodd y naw ci bach a'r tri chi aeddfed eu hatafaelu dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a'u cymryd i'w hasesu gan filfeddygon.  


Yn dilyn asesiadau, nodwyd bod y cŵn yn dioddef o amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd, gan gynnwys:
• Prolaps rhefrol.

• Entropion dwyochrog - cyflwr sy'n achosi i'r amrannau gyrlio i mewn, gan rwbio'r llygad.

• Cynffon corcsgriw gymedrol i ddifrifol, annormaledd cydffurfiadol genetig lle mae'r gynffon yn fyr, yn gam ac yn cyrlio i mewn i’r corff gan achosi anghysur difrifol ac weithiau haint ar y croen.

• Ansawdd côt gwael.  

• Llygad ceirios dwyochrog.

• Llid yr amrannau dwyochrog – haint ar y llygaid.

• Epiffora - cynnydd mewn cynhyrchiant dagrau, sy’n gyffredin pan mae’r llygaid yn boenus.

• Hernia bogeiliol.

• Cyffosis cymedrol - annormaledd genetig o'r asgwrn cefn sy’n gwneud i’r cefn grymu i fyny gan gynyddu'r risg o boen a phroblemau cefn. 

• Dannedd wedi torri.

• Colli gwallt.

• Problemau anadlu. 


Yn anffodus, bu'n rhaid ewthaneiddio pump o'r cŵn, tra bod Hope Rescue yn gofalu am y lleill. 

Dywedodd Sara Rosser, Rheolwr Gweithrediadau Hope Rescue: "Roedd hi'n amlwg o'r cychwyn fod y cŵn mewn cyflwr ofnadwy ac, yn anffodus, roedd yn rhaid i ddau gael eu hewthaneiddio ar unwaith. Nid oedd un ci yn gallu ymestyn ei goesau ôl, roedd ganddo broblem gyda’r llygaid, problemau gyda’r galon, a phroblemau gyda'i asgwrn cefn. Roedd gan y llall brolaps rhefrol a oedd wedi cael ei adael mor hir nes ei fod yn necrotig.


"Rydym yn ddiolchgar i dîm yr Awdurdod Lleol a weithiodd mor galed ar yr achos hwn. Roedd hwn yn achos heriol iawn i ni, gan ein bod am sicrhau bod cŵn yn cael ail gyfle.  Cawsom ein llorio, er gwaethaf ymdrechion gorau ein tîm a'r milfeddygon, fod yn rhaid i dri chi arall gael eu hewthaneiddio oherwydd annormaleddau difrifol gyda’r cymalau a'r asgwrn cefn. Hyd yn oed gydag ymyrraeth feddygol, ni fyddai'r cŵn hyn wedi gallu byw heb boen, sy'n anhygoel o drist."