Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn rhannu maint ei her ariannol

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi rhannu maint ei her ariannol mewn adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet yr Awdurdod yr wythnos nesaf.

 

  • Dydd Gwener, 10 Mis Tachwedd 2023

    Bro Morgannwg



Gyda chostau yn codi ar gyfradd llawer uwch na’i chyllid, mae'r sefydliad yn wynebu anawsterau digynsail wrth gynnal y gwasanaethau y mae'n eu darparu i breswylwyr.


Dangosodd rhagolwg cychwynnol y bydd costau'r Cyngor yn codi 38.525 miliwn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ar ôl cymryd camau i reoli'r pwysau hynny, mae'r ffigwr wedi ei ostwng bellach i £20.767 miliwn.

 

 

Civic

Fodd bynnag, mae hynny'n dal i adael diffyg cyllideb o fwy na £10.5 miliwn ar ôl ffactora’r cynnydd a ragwelir mewn cyllid y bydd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill.


Mae gwariant i sicrhau bod trigolion mwyaf agored i niwed y Fro yn derbyn gofal cymdeithasol priodol hefyd £8 miliwn yn fwy na'r disgwyl ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Rwy’ am fod yn glir iawn mai dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf y mae'r Cyngor wedi bod ynddi a bydd gosod y gyllideb nesaf yn anoddach nag erioed o'r blaen.


"Mae'n ffaith syml bod costau'n cynyddu ar gyfradd llawer uwch na chyllid, sy'n golygu bod bwlch sylweddol a chynyddol rhwng yr hyn y gall y Cyngor fforddio ei dalu amdano nawr a'r hyn fydd yn bosibl ei fforddio yn y dyfodol.


"Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am welliannau effeithlonrwydd a chyfleoedd arbedion ar draws pob rhan o’r Cyngor, a bydd angen defnyddio cronfeydd cyllid y Cyngor yn ofalus hefyd. Fodd bynnag, nid oes modd celu'r ffaith bod rhai penderfyniadau anodd ac annymunol o'n blaenau wrth i ni anelu at ddyrannu'r arian sydd ar gael i ni yn y modd gorau.


"Yr hyn fydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr yw cynnal gwasanaethau i'r rhai yn ein cymunedau sydd eu hangen fwyaf.  Byddwn bob amser yn sicrhau bod ein plant, ein pobl hŷn, y rhai ag anghenion ychwanegol yn derbyn gofal priodol."

Mae cynnydd sylweddol yng nghostau’r Cyngor yn ganlyniad uchel i brisiau ynni, chwyddiant a chyfraddau llog uchel, tra bod y gost gynyddol o ddarparu ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o ddisgyblion ysgol ag Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu.


Mae'r galw am ofal cymdeithasol ymhlith oedolion a phlant wedi cynyddu, gyda mwy o angen am lety digartrefedd hefyd yn cael effaith.


Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cyllid Awdurdodau Lleol yn cynyddu dri y chant y flwyddyn nesaf ac un y cant ar ôl hynny.


Mae hyn yn llawer is na'r gyfradd chwyddiant bresennol yn yr un modd â’r cynnydd enghreifftiol yn y Dreth Gyngor o 4.9% a ddefnyddir yn yr adroddiad.


Bydd cynigion cyllideb yn cael eu hystyried gan y Cabine a’r pwyllgorau Craffu maes o law ac yn mynd drwy ymgynghoriad cyhoeddus cyn cael eu cwblhau yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mawrth.