Cost of Living Support Icon

 

Defnyddio lluniau camerau cylch cyfyng y cyngor i adnabod aelod or cyhoedd oedd yn tipion anghyfreithlon

Gall ein gwasanaethau gorfodi gadarnhau bod unigolyn dienw wedi cael ei ddal yn tipio gwastraff cartref yn anghyfreithlon yn agos at barc poblogaidd ger Caerleon Road, Dinas Powys.

 

  • Dydd Iau, 02 Mis Tachwedd 2023

    Bro Morgannwg



Derbyniwyd gwybodaeth gyda dyddiadau ac amseroedd pan ddigwyddodd y tipio anghyfreithlon, yn dilyn hyn, adolygwyd lluniau teledu cylch cyfyng a chipiwyd y digwyddiad ac roedd yr uned troseddau gwastraff yn gallu adnabod yr unigolyn, gafodd Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) o £300.

 

Cynnig amodol yw HCB lle gall unigolyn o dan amheuaeth gael gwared ar unrhyw atebolrwydd troseddol, am drosedd, trwy dalu swm penodol o fewn pedwar diwrnod ar ddeg.  Os yw'r person dan amheuaeth yn gwrthod derbyn HCB neu os na wneir taliad o fewn y pedwar diwrnod ar ddeg, mae'r cynnig amodol yn cael ei dynnu'n ôl, ac mae'r person dan amheuaeth yn cael ei erlyn.

 

Digwyddodd hyn ar 23 Medi ac fe'i cipiwyd gan gamera y gellir ei ddefnyddio gan y Tîm Diogelwch Cymunedol yn ein parciau a'n mannau agored.

 

Dywedodd rheolwr y gwasanaethau gorfodi, Craig Handley: "Heb y lluniau teledu cylch cyfyng rhagorol a pha mor gyflym yr oeddem yn gallu eu gwylio, ni fyddem wedi gallu hyd yn oed adnabod rhywun dan amheuaeth heb sôn am roi Hysbysiad Cosb Benodedig iddynt.

 

"Mae cyflwyno'r rhwydwaith teledu cylch cyfyng newydd a chreu gweithgor gweithredol, y mae'r Gwasanaeth Gorfodi yn aelod ohono, yn newid pethau i ni yn sylweddol ac yn enwedig pan fydd rhywun yn ystyried yr hyn y mae'n ei ddisodli."

 

Nid oes gan Gyngor Bro Morgannwg unrhyw oddefgarwch tuag at dipio anghyfreithlon ac, hyd yma, dyma’r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i'r ymgyrch #SCRAPflytipping, menter sy'n cael ei rhedeg gan gydweithwyr yn Swydd Hertford, ac sydd wedi cael ei mabwysiadu gan awdurdodau lleol ledled Lloegr ac sy'n defnyddio dull amlasiantaethol o fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: "Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i atal troseddwyr.

 

"Mae gennym dechnoleg soffistigedig iawn ledled y Fro a all ddal y rhai sy'n gyfrifol ac sy'n galluogi ein gwasanaethau i roi dirwyon trwm lle bo hynny'n bosibl.

 

"Gall tipio anghyfreithlon gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein pwerau i atal ac erlyn y rhai sy'n cyflawni'r drosedd hon.

 

"Mae tipio anghyfreithlon yn cael effaith niweidiol ar ein cymunedau lleol ac os na ddelir â hwy'n effeithiol, gall arwain at ragor o achosion tebyg. Rwy'n falch bod ein swyddogion wedi gallu adnabod y person sy'n gyfrifol yn yr achos hwn gyda'r offer recordio newydd sydd ar gael.

 

"Byddwn yn parhau â'n hymdrechion i sicrhau bod y Fro yn parhau i fod yn lle diogel a glân i bawb ei fwynhau."

 

Gellir rhoi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon ar wefan y Cyngor, lle gellir gweld gwybodaeth ynghylch sut i gael gwared ar wastraff yn gyfrifol hefyd.