Cost of Living Support Icon

 

Dosbarth Meithrin Sain Dunwyd yn defnyddio grant i gofleidio ethos awyr agored

Mae cylch chwarae Sain Dunwyd yn arloesi gyda dull awyr agored arloesol o roi gofal meithrin ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg ei helpu i sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru.

 

  • Dydd Gwener, 17 Mis Tachwedd 2023

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Wedi'i leoli yng Ngholeg yr Iwerydd UWC ger Llanilltud Fawr, bu'n rhaid i'r cylch chwarae, sy'n darparu ar gyfer plant cyn oed ysgol, symud allan yr adeilad yr oedd gynt ynddo ar y safle. 

 

Fel dewis arall, cafodd gynnig lle awyr agored ac mae wedi cofleidio'r amgylchedd naturiol newydd hwn. 


Defnyddiwyd y grant, o Gronfa Blynyddoedd Cynnar a Chyfalaf Gofal Plant Llywodraeth Cymru, i brynu dau iwrt, sy'n ffurfio ardaloedd chwarae ar gyfer y plant ac sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru at y diben hwn. .

 

nursery1

Mae nodweddion eraill y safle yn cynnwys meithrinfa natur ac ardal chwarae wedi'i hamgylchynu gan goetir a bywyd gwyllt.

 

Ymwelodd y Cynghorwyr Rhiannon Birch ac Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, yn y drefn honno, â'r safle yn ddiweddar i weld sut mae'r dosbarth meithrin yn gweithio a'r manteision y mae'n eu cynnig i blant.

Dywedodd y Cynghorydd Birch: "Mae hwn yn lle gwych sy'n cynnig cyfle i blant wneud y gorau o'r amgylchedd gwych y mae'r dosbarth meithrin wedi'i leoli ynddo.


"Bydd y iyrtau yn gwella gofod sydd eisoes yn wych lle gall plant archwilio'r awyr agored, dysgu am blanhigion lleol a bywyd anifeiliaid, a mwynhau'r awyr iach.


"Mae bod yn yr awyr agored yn cynnig ystod o fanteision o gymharu â dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac rwy'n hapus iawn bod y Cyngor wedi gallu cynorthwyo gyda'r cynllun hwn."