Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn targedu cludwyr gwastraff

Mae Gwasanaeth Gorfodi Cyngor Bro Morgannwg yn cynyddu ymdrechion i fynd i'r afael â chludwyr gwastraff anghyfreithlon ledled y rhanbarth.

  • Dydd Gwener, 22 Mis Medi 2023

    Bro Morgannwg

 

 

 

Police office enforcement image

Mewn cydweithrediad â Heddlu De Cymru, atafaelwyd sawl cerbyd am amryw resymau.

 

Pwrpas yr ymarfer oedd tarfu ar weithgareddau cludwyr gwastraff anghyfreithlon amneus ac adnabod gwastraff troseddol a throseddau eraill.

 

Cyhoeddodd y tîm hefyd Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer sawl achos o dipio anghyfreithlon yn ardal Llanilltud Fawr.

 

Cynhaliodd Swyddogion Gorfodi chwiliadau pob cerbyd a stopiwyd a chyhoeddwyd nifer o Hysbysiadau Cosb Benodedig yn y fan a'r lle.

Rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru wybodaeth i yrwyr ar sut y gallent wneud cais am drwydded cludo gwastraff.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau – Y Cynghorydd Mark Wilson:  "Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol ac rydym yn gwneud pob ymdrech i atal troseddwyr.

 

"Mae'r bartneriaeth rhwng ein tîm gorfodi ac asiantaethau eraill wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae eu gwybodaeth gyffredin wedi amharu ar fwriadau troseddol cludwyr gwastraff anghyfreithlon.

 

"Gall gwaredu gwastraff anghywir gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein pwerau i atal ac erlyn y rhai sy'n cyflawni'r drosedd hon.

 

"Byddwn yn parhau i ymdrechu i wneud y Fro yn lle diogel a glân i bawb ei fwynhau."

 

Nid yw'r cyngor yn gallu enwi unrhyw gludwyr gwastraff anghyfreithlon ar hyn o bryd gan y gallai hyn danseilio unrhyw erlyniad dilynol sy'n eu herbyn.

 

Gallwch ddarganfod sut i gofrestru ar gyfer trwydded cludwyr gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.