Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn Dyfarnu Cyllid Grant ar gyfer Muriau Tref Y Bont-faen

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i ddyfarnu cyllid Ymddiriedolaeth Siarter y Bont-faen (CCT) tan fis Mawrth 2029 i gynorthwyo gyda chynnal a chadw muriau hanesyddol y dref.

 

  • Dydd Gwener, 22 Mis Mawrth 2024

    Bro Morgannwg



Yn dilyn cwymp rhannol y muriau yn 2008, dyfarnodd y Cyngor grant o £60,000 i CCT adfer y mur Canoloesol i gyflwr diogel a deniadol.

 

Ers dyfarnu'r cyllid grant cychwynnol, gwnaed grantiau dilynol i sicrhau gwaith atgyweirio a chynnal a chadw parhaus i Furiau’r Dref Gradd II Rhestredig.

 

Nawr, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i ymestyn cyllid o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2029. Bydd CCT yn derbyn £1,500 y flwyddyn o'r Gyllideb Grantiau Corfforaethol i helpu gyda chost y gwaith atgyweirio arbenigol sydd ei angen ar Furiau’r Dref.

Cllr Bronwen BrooksDwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:  "Rydym yn falch iawn o allu darparu'r cyllid hwn i gadw Muriau Tref y Bont-faen yn ddiogel ac mewn cyflwr deniadol.

 

"Mae Ymddiriedolaeth Siarter y Bont-faen wedi gweithio'n galed i gynnal Muriau’r Dref ers blynyddoedd lawer gyda chymorth cyllid y Cyngor, ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymrwymiad i gyllid pellach yn cynorthwyo gyda'r gwaith angenrheidiol sydd ei angen.

 

"Mae Muriau'r Dref yn rhan mor bwysig o hanes cyfoethog y Bont-faen, ac mae'n ddyletswydd arnom i ddiogelu'r hanes hwnnw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd."