Cyngor yn helpu i gyflawni adeilad gofal ychwanegol i bobl hyn
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Wales & West Housing (WWH) i ddarparu adeilad gofal ychwanegol newydd i bobl hŷn o'r radd flaenaf ym Mhenarth.
Mae tai gofal ychwanegol wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer pobl hŷn. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys fflatiau hunangynhwysol, gyda gofal wedi'i deilwra ar y safle ar gyfer unigolion sydd am fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned gefnogol.
Wedi'i ariannu'n rhannol gan y Gronfa Tai gyda Gofal a Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, bydd y prosiect gwerth £20 miliwn yn gweld 70 o fflatiau fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan WWH ar ôl i'r Cyngor drosglwyddo tir iddo ar brydles hirdymor.
Dyna'r cam diweddaraf mewn prosiect mwy i integreiddio cartrefi pobl hŷn newydd a phresennol gyda chyfleusterau gofal cymdeithasol ac iechyd yn y lleoliad.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n falch iawn bod trefniadau prydlesu ar gyfer y tir hwn wedi'u cwblhau a gall y gwaith ar yr adeilad newydd cyffrous hwn ddechrau.
"Bydd yn darparu llety fforddiadwy mawr ei angen i bobl hŷn ym Mhenarth ac mae'n enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol gyda’r sefydliadau'r sector cyhoeddus.
"Ymhen amser, rydym yn gobeithio y gellir ychwanegu elfennau eraill at y cynllun i roi cefnogaeth gynhwysfawr i'w gymuned o drigolion.
"Dangosodd ein harolwg diweddar 'Bywyd yn y Fro' mai dwy brif flaenoriaeth i breswylwyr yw: gwasanaethau gofal a gofal iechyd sy'n hawdd eu cyrraedd, a’r gallu i brynu neu rentu cartref o ansawdd da. Rydym hefyd yn gwybod bod y rhain yn bryderon i bobl hŷn.
"Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar yr adborth hwn ac mae datblygiadau fel hyn yn gam sylweddol wrth helpu i fynd i'r afael â'r pryderon hynny."
Mae'r tir y bydd y datblygiad yn cael ei gadw arno wedi'i leoli ar safle 3.6 erw ger Myrtle Close.
Bydd yr adeilad yn cael ei godi gerllaw Oak Court, cyfleuster preswyl presennol Tai Wales and West i bobl hŷn, a Thŷ Dewi Sant, cartref gofal sy'n deall dementia a reolir gan y Cyngor.
Mae WWH yn penodi contractwr o Gymru, JG Hale Group i adeiladu'r cyfleuster newydd ynghyd â gwell mynediad i'r briffordd.
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau'r haf hwn, gyda'r gwaith i fod i bara tua dwy flynedd.
Ar dir cyfagos, mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu adeiladu datblygiad byw annibynnol pobl hŷn o tua 32 o gartrefi fforddiadwy.
Dywedodd Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Wales & West Housing, Jon Harvey : "Rydym yn falch o chwarae rhan bwysig yn natblygiad y cynllun gofal ychwanegol hwn a fydd yn darparu cartrefi modern o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn yr ardal.
"Bydd ein cynllun gofal ychwanegol ym Mhenarth yn rhoi'r rhyddid i breswylwyr fyw'n annibynnol yn eu fflat eu hunain ond gyda thawelwch meddwl o wybod eu bod yn byw mewn amgylchedd diogel gyda gwasanaeth ymateb brys 24 awr.
"Bydd yr holl fflatiau yn effeithlon o ran ynni gyda lefelau uchel o insiwleiddio a fydd yn helpu i gadw'r biliau ynni yn fforddiadwy i breswylwyr. Bydd paneli solar a storfeydd batri yn cyd-fynd â'r adeilad i gynhyrchu pŵer ar gyfer yr ardaloedd cymunedol a lleihau ei ôl troed carbon.
"Mae'r cynllun mewn lleoliad cyfleus a bydd ganddo fwyty ar y safle a gerddi cymunedol a rennir, lolfeydd a golchdy. Bydd gan yr holl fflatiau olygfeydd allan dros ardd ganolog sy'n addas i bobl â dementia i breswylwyr.
"Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu pum cynllun gofal ychwanegol ledled Cymru ac mae ein trigolion yn dweud bod eu bywydau yn cael eu trawsnewid pan fyddant yn symud i mewn."