Cost of Living Support Icon

 

Llwyddiant i ddisgyblion Bro Morgannwg ar Ddiwrnod Canlyniadau TGAU

Llwyddodd dros 28 y cant o'r ymgeiswyr i ennill gradd TGAU A neu A*, gyda 71.4 y cant yn ennill graddau A* i C a derbyniodd 97.6 y cant o'r dysgwyr raddau A* i G.

  • Dydd Gwener, 22 Mis Awst 2025

    Bro Morgannwg



Cllr Rhiannon BirchDywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau waelod calon i'r holl ddysgwyr ledled Bro Morgannwg a dderbyniodd eu canlyniadau TGAU heddiw.


“Unwaith eto, rydym wedi gweld set ragorol o ganlyniadau ar draws ein hysgolion, sy'n adlewyrchu gwaith caled, ymroddiad a gwydnwch ein pobl ifanc. Dylent fod yn hynod falch o'r hyn y maent wedi'i gyflawni.


“Mae hefyd yn bwysig cydnabod y rôl hanfodol a chwaraeir gan athrawon a staff cymorth. Mae eu hymrwymiad a'u hanogaeth barhaus wedi bod yn allweddol wrth helpu dysgwyr i gyrraedd eu potensial.


“Rwy'n gobeithio bod pob dysgwr yn cymryd amser i fwynhau eu llwyddiant heddiw ac yn teimlo'n hyderus wrth iddynt gymryd eu camau nesaf, boed hynny'n addysg bellach, hyfforddiant, neu gyflogaeth.”