Cyngor yn cyhoeddi ei adroddiad hunanasesu blynyddol
Mae'r adroddiad hunanasesu blynyddol yn manylu ar sut y perfformiodd Cyngor Bro Morgannwg wrth gyflawni ei amcanion dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei Adroddiad Hunanasesu Blynyddol, yn manylu ar sut mae'r Cyngor wedi perfformio yn erbyn ei amcanion dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r adroddiad statudol hwn, sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i dryloywder a gwelliant parhaus.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau allweddol y Cyngor dros y deuddeg mis diwethaf, fel lansiad Bro 2030, ein Cynllun Corfforaethol newydd, sydd wedi'i lunio gan drigolion drwy'r Arolwg Gadewch i Siarad a'i lywio gan Asesiad Perfformiad y Panel annibynnol.
Roedd y Cyngor wedi ymrwymo cyllid a buddsoddiad sylweddol i gefnogi adfywio, lleoedd a busnesau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cyllid gan y llywodraeth gwerth dros £55 miliwn i fuddsoddi ym Mro Morgannwg gan gynnwys £20 miliwn i'r Barri dros 10 mlynedd a £19.5 miliwn ar gyfer prosiect Glannau’r Barri a chyflawnodd rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin £14 miliwn i gefnogi adfywio canol tref, ein huchelgeisiau net sero a digwyddiadau diwylliannol a mentrau teithio llesol gyda £3.76 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru.
Roedd tai yn ffocws mawr i'r Cyngor mewn blwyddyn a gyflwynwyd 180 o gartrefi rhent newydd fel rhan o raglen adeiladu tai’r Cyngor. Lleihaodd y Cyngor hefyd ei ddibyniaeth yn sylweddol ar lety gwesty dros dro ar gyfer digartrefedd (180 o'i gymharu â 767 y llynedd) ac ni chafodd unrhyw deuluoedd â phlant eu cartrefu mewn llety Gwely a Brecwst.
Parhaodd plant, pobl ifanc ac ysgolion yn ffocws allweddol i'r Cyngor, a amlygwyd gan ddau adroddiad arolygu Estyn ar gyfer Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol a'r Gwasanaeth Ieuenctid. Cyflawnodd y Gwasanaeth Ieuenctid y lefelau uchaf erioed o achrediadau eleni a gwelodd canran y bobl ifanc sy'n gadael Blwyddyn 13 sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn lleihau o 3.59% i 2.3%.
Roedd cefnogi ein trigolion bregus yn bwnc allweddol i'r Cyngor drwy gydol y flwyddyn hefyd. Mewn partneriaeth â'r trydydd sector, rydym wedi cynyddu faint o lety preswyl i blant a phobl ifanc, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i'n plant sy'n derbyn gofal i fyw'n lleol. Mae ein Fforwm Adran 16 sydd newydd ei sefydlu wedi bod yn gam mawr wrth hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, a gwasanaethau dan arweiniad defnyddwyr.
Gan gydnabod pwysigrwydd ffyrdd i fyw’n iach a galluogi pobl i fyw'n hirach, mae'r Cyngor wedi parhau mewn partneriaeth â chwmni hamdden Parkwood Legacy i ddarparu cyfleoedd hamdden hygyrch o ansawdd uchel, gyda ffocws penodol ar leihau rhwystrau rhag cyfranogiad. Cododd ymweliadau canolfannau hamdden o 741,500 i 856,303 gyda chefnogaeth gweithiannau gwella mawr. Cyflwynodd y Rhaglen Pobl Ifanc Egnïol ac Ysgolion Egnïol dros 17,600 o gyfranogiadau drwy gydweithio â 172 o sefydliadau.
Parhaodd yr amgylchedd a chynaliadwyedd hefyd yn flaenoriaeth allweddol wrth i'r Cyngor symud ymlaen tuag at ddod yn awdurdod net sero erbyn 2030, gan ymgorffori datgarboneiddio ym mhob gweithgaredd caffael a phrosiectau cyngor. Lleihaodd prosiectau - a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin - ei hallyriadau CO2 o 96 tunnell ac effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau'r cyngor o tua 10.6%, sydd yn fwy na'r targed blynyddol o 3%.
Fel rhan o welliannau i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gwnaethom gyflawni'r targed ailgylchu gwastraff domestig statudol cenedlaethol o 70% trwy ailgylchu 71.73% o wastraff - i fyny o 70.35% yn 2023/24 ac ehangu'n gwasanaeth ailgylchu masnachol yn llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae'r adroddiad hunanasesu eleni yn adlewyrchu nid yn unig y cynnydd rydym wedi'i wneud, ond yr uchelgais sy'n parhau i yrru ein gwaith ar draws y Fro.
“O lansio ein Cynllun Corfforaethol newydd Bro 2030 i sicrhau dros £55 miliwn o fuddsoddiad allanol, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau hirdymor a luniwyd gan ein trigolion a'n partneriaid.
“Rydym wedi gwneud camau sylweddol yn y meysydd sy'n bwysicaf. O adeiladu mwy o gartrefi cyngor a lleihau'r angen am lety dros dro, i gryfhau addysg, cefnogi trigolion bregus, ac ehangu mynediad at hamdden a gweithgareddau i fyw’n iach.
“Mae ein cynnydd o ran datgarboneiddio a chyflawni'r targed ailgylchu cenedlaethol yn dangos ein penderfyniad parhaus i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
“Er ein bod yn falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni, rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud. Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad i dryloywder, i wrando, ac i gyflawni canlyniadau ymarferol, cynaliadwy i gymunedau ledled y Fro. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y momentwm hwn wrth i ni symud i 2026.”
Mae'r adroddiad llawn yn ogystal â chrynodeb gweithredol a fersiynau hawdd eu darllen bellach ar gael ar wefan y Cyngor.