Cymuned yn uno ar gyfer Digwyddiad Mis Balchder Anabledd
Nododd Cyngor Bro Morgannwg Fis Balchder Anabledd gyda seremoni codi baner y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri.
Daeth y digwyddiad - a drefnwyd gan Faer Bro Morgannwg - ag aelodau o'r gymuned ynghyd gan gynnwys grŵp o drigolion o Wasanaeth Dydd ValePlus, cynrychiolwyr o'r elusen Mind, a staff y Cyngor i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r profiadau amrywiol o fewn y gymuned anabl.
Mae Mis Balchder Anabledd yn gyfle hanfodol i annog sgyrsiau agored am anabledd, hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth, ac amlygu pwysigrwydd hygyrchedd a chysylltiad.
Yn dilyn codi'r faner, ymgasglodd y mynychwyr y tu mewn i'r Swyddfeydd Dinesig i fwynhau cyfle i gysylltu â'i gilydd a myfyrio ar Fis Balchder Anabledd.
Dywedodd y Cynghorydd Naomi Marshallsea, Maer Bro Morgannwg: “Rydym yn dathlu Mis Balchder Anabledd bob mis Gorffennaf. Mae hwn yn gyfnod i godi ymwybyddiaeth o anableddau, dechrau sgyrsiau cadarnhaol a dathlu amrywiaeth y gymuned anabl.
“Fel mam i blentyn ag anabledd, rwy'n credu'n llwyr yn y model cymdeithasol o anabledd — dealltwriaeth mai cymdeithas sy'n ein hanalluogi ni, nid ein namau.
“Yn y Fro, rydym yn anelu at weithio tuag at fyd lle mae'r rhwystrau y mae unrhyw un yn eu hwynebu yn cael eu datgymalu, felly does neb yn wynebu allgáu nac ymylu.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Fel Cyngor, rydym yn ceisio cydweithio â'r gymuned i chwalu rhwystrau a sicrhau bod hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn.
“Mae'r codi baner ar gyfer Mis Balchder Anabledd yn symbol o'n taith barhaus wrth i ni geisio gwella profiadau pob preswylydd, ac edrychwn ymlaen at barhau â'r sgyrsiau pwysig hyn am fynediad, cynhwysiant a chydraddoldeb drwy gydol y flwyddyn i wneud Bro Morgannwg yn lle gwirioneddol groesawgar i bawb.”