Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn Lansio Rhaglen Gwyliau Haf 2025  

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi lansiad ei Raglen Gwyliau Haf 2025, gan gynnig ystod eang o weithgareddau rhad ac am ddim i deuluoedd a phobl ifanc drwy gydol gwyliau'r ysgol.

  • Dydd Mawrth, 08 Mis Gorffenaf 2025

    Bro Morgannwg



Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y Fro, mae tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Cyngor wedi llunio calendr o ddigwyddiadau sy'n addas i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ochr yn ochr ag ystod o weithgareddau teuluol. 

 

FIS LogoMae Llyfrgelloedd y Fro, y Gwasanaeth Ieuenctid, Dechrau’n Deg a'r Timau Chwarae a Chwaraeon Byw'n Iach i gyd yn cynnig sawl digwyddiad am ddim i blant a phobl ifanc gymryd rhan ynddynt yn ystod gwyliau'r ysgol - gan gynnwys digwyddiadau crefft a stori rhad ac am ddim ar draws holl lyfrgelloedd y Fro, yn ogystal â sesiynau aml-chwaraeon am ddim, cynlluniau chwarae a ceidwaid chwarae ledled y sir.


Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig amrywiaeth o glybiau ieuenctid a gwersylloedd chwaraeon i ymgysylltu gyda pobl ifanc dros yr haf. Mae gweithgareddau ychwanegol - megis sesiynau drama a theatr, dosbarthiadau dawns a champfa, cyfarfyddiadau anifeiliaid, dangosiadau sinema, gwersi nofio, a mwy - hefyd ar gael am ffi.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae darparu ystod eang o weithgareddau cost isel ac am ddim yn hanfodol i deuluoedd, yn enwedig yn ystod gwyliau'r haf pan gall cyllidebau fod yn dynn. Mae'r cyfleoedd hyn yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn y Fro yn cael mynediad at brofiadau hwyliog a chyfoethog heb rwystrau ariannol.”


Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant:
“Mae gweithgareddau'r haf fel gwersylloedd chwaraeon, sesiynau creadigol, a digwyddiadau awyr agored nid yn unig yn bleserus ond hefyd yn hanfodol ar gyfer lles plant. Bydd y rhaglen hon o weithgareddau yn annog pobl ifanc i fynd yn yr awyr agored, cadw’n iach a meithrin cysylltiadau cymdeithasol cadarnhaol - sydd o fudd i'w hiechyd corfforol a meddyliol.”

Mae Rhaglen Gwyliau'r Haf 2025 yn cychwyn ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf a bydd yn rhedeg drwy gydol yr haf tan 31 Awst. 


Gallwch ddod o hyd i'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar wefan FIS yma.


Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd eich helpu i ddod o hyd i ofal plant, helpu gyda chostau gofal plant, gweithgareddau a gwasanaethau cynhwysol i blant a phobl ifanc yn y Fro.