-
Gwrandäwr meddylgar a chwilfrydig,
-
Gwneuthurwr penderfyniadau teg a chytbwys gyda'r gallu i bwyso a mesur tystiolaeth sy'n gwrthdaro a dod i gasgliadau effeithiol,
-
Yn gallu dangos uniondeb, cymeriad da, gwerthoedd moesegol cryf a pharch tuag at eraill,
-
Y gallu i weithio fel rhan o dîm, a
-
Wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol mewn bywyd cyhoeddus.
Mae diddordeb mewn materion gwasanaeth cyhoeddus a chymunedol yn fantais, a chroesewir sgiliau Cymraeg.
Er mwyn sicrhau didueddrwydd, ni allwch wneud cais os ydych yn:
-
Cynghorydd neu Swyddog sy'n gwasanaethu (neu briod neu bartneriaid sifil Cynghorydd neu Swyddog) Cyngor Bro Morgannwg, Awdurdod Tân ac Achub ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, neu Gyngor Cymuned / Tref,
-
Cyn-gynghorwyr neu Swyddogion Cyngor Bro Morgannwg,
-
Cyn-gynghorwyr neu Swyddogion unrhyw Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol arall, Awdurdod Tân ac Achub neu Awdurdod Parc Cenedlaethol tan o leiaf flwyddyn ar ôl peidio â bod yn Gynghorydd / Swyddog yr Awdurdod hwnnw.
Gall y Panel Penodiadau ystyried yr angen i sicrhau cydbwysedd o sgiliau, rhinweddau ac arbenigedd ar y Pwyllgor, yn ogystal â'r angen i gynrychioli'r gymuned yn ei chyfanrwydd a sicrhau lledaeniad daearyddol o gynrychiolaeth ar y Pwyllgor.