Cost of Living Support Icon

 

Camwch i'r Ardd o Straeon: Llyfrgelloedd y Fro yn lansio Her Ddarllen yr Haf 2025

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog plant ledled y sir i ddarganfod hud darllen dros wyliau'r haf ar gyfer Her Ddarllen yr Haf flynyddol Yr Asiantaeth Ddarllen.

  • Dydd Gwener, 04 Mis Gorffenaf 2025

    Bro Morgannwg



The Story Garden IllustrationMae thema 2025 – Gardd o Straeon - yn gwahodd darllenwyr ifanc i ddarganfod rhyfeddodau natur drwy adrodd straeon, meithrin creadigrwydd a chysylltiad dyfnach â'r byd o'u cwmpas. 

 

O 5 Gorffennaf ymlaen, gall plant o bob oed gofrestru mewn unrhyw gangen llyfrgell ym Mro Morgannwg a chymryd rhan yn yr her hwyliog a gwerth chweil hon.


Nod yr her yw ysbrydoli plant i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd ac iaith y tu allan i'r ysgol tra'n meithrin eu dychymyg a'u cariad at lyfrau.

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Rydym wrth ein bodd o weld yr Her Ddarllen yr Haf yn dychwelyd unwaith eto i lyfrgelloedd Bro Morgannwg, ac mae’r thema Gardd o Straeon yn cynnig cyfle gwych i blant ymgolli yn harddwch a rhyfeddod y byd naturiol drwy lyfrau.


“Rydym yn gobeithio bod pob plentyn yn y Fro yn teimlo ysbrydoliaeth i ddarganfod straeon newydd drwy Her Ddarllen yr Haf a thyfu eu cariad at ddarllen mewn ffordd hwyliog a chefnogol dros wyliau'r haf.”

Ymhlith y teitlau gwych eleni mae The Ocean Gardener gan Clara Anganuzzi - stori wedi ei darlunio'n hyfryd sy'n plymio'n ddwfn i ddirgelion y byd tanddwr, BOING! A Bouncy Book of Bugs gan James Carter - darlleniad bywiog a rhyngweithiol am y creaduriaid bychain sy'n suo o'n cwmpas, a The Edge of the Silver Sea gan Alex Mullarky - antur hudolus sy'n llawn dirgelwch a hud lle mae'r tir yn cwrdd â'r môr.


Am bob dau lyfr a ddarllenir ac a ddychwelir, bydd y darllenwr yn derbyn sticeri a ffolder arbennig i olrhain eu taith ddarllen. 


Bydd y rhai sy'n darllen chwe llyfr neu fwy yn cael medal a thystysgrif cyflawniad.


Am ragor o wybodaeth am Her Ddarllen yr Haf, cliciwch yma.