Cost of Living Support Icon

 

Treial plastigau meddal yn rhagori ar ddisgwyliadau

Mae treial ailgylchu plastigau meddal Bro Morgannwg yn rhagori ar y disgwyliadau, gyda thua tair tunnell fetrig o ddeunydd yn cael eu casglu bob wythnos.

  • Dydd Gwener, 30 Mis Mai 2025

    Bro Morgannwg



Yn dilyn ei berfformiad ailgylchu rhagorol blaenorol, dewiswyd y Fro gan Raglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) Cymru i dreialu cynllun newydd arloesol ar gyfer plastigau meddal.

 

Softrecycle2Mae hynny'n gweld eitemau na fyddent fel arfer yn cael eu hailgylchu, fel bagiau a lapio, yn cael eu casglu o ymyl y ffordd ym Mhenarth, Dinas Powys, Sili a rhai ardaloedd cyfagos.


I ddechrau, roedd tîm gwastraff y Cyngor yn rhagweld cynhyrchu un byrn 600kg o blastig meddal wedi'i ailgylchu yr wythnos, ond maent ar hyn o bryd yn prosesu un bob dydd, felly fu ymateb cadarnhaol gan drigolion.


Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Hoffwn ddiolch i drigolion am y ffordd y maent wedi cofleidio'r cynllun peilot hwn, mae eu hymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rydym wedi casglu llawer o wastraff plastig meddal o gartrefi pobl sy'n awgrymu bod potensial gwirioneddol i ymestyn y treial hwn i leoliadau eraill.


“Mae'r Fro yn enwog fel lle sy'n poeni am y blaned, lle mae pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi ffyrdd newydd o ailgylchu. Dyna pam y penderfynodd WRAP Cymru y dylem fod yn un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i dreialu'r system hon.


“Yma, mae'r Cyngor a dinasyddion yn cydnabod pwysigrwydd diogelu'r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wrth i ni gydweithio tuag at Brosiect Zero, ein hymrwymiad i ddod yn Awdurdod Lleol carbon niwtral yn y pum mlynedd nesaf, gydag uchelgais i'r sir gyfan ddilyn erbyn 2050. 


“Mae'n bwysig bod trigolion yn parhau â'u hymrwymiad i'r cynllun hwn ac yn ceisio osgoi halogi bagiau glas o blastig gyda deunyddiau eraill.


“Bu ychydig o enghreifftiau o hynny, sydd yn rhywbeth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef er mwyn i'n perfformiad wella hyd yn oed ymhellach.”


Softrecycle1Diolch i'r ffordd ymroddedig y mae trigolion wedi cofleidio mentrau tebyg, mae'r sir hon wedi helpu Cymru i ddod yn un o'r ailgylchwyr gorau ledled y byd.

 

Cafodd dros 70 y cant o'r deunydd a gasglwyd yn y Fro ei ailgylchu yn ystod 2023/24, sy'n golygu ei fod ymhlith ardaloedd Awdurdod Lleol Cymru sy'n perfformio orau.


Mae'r llwybr hwn yn dilyn cyflwyno system wedi'i wahanu gan ffynonellau yn llwyddiannus i'r Fro yn 2019, trefniant sy'n golygu bod trigolion yn didoli eu gwastraff yn ôl math o ddeunydd, yn hytrach na'i roi i gyd mewn un bag.


Bydd y cynllun peilot plastigau meddal yn monitro lefelau cyfranogiad ynghyd â'r effaith ar gasgliadau a throsglwyddiadau gwastraff a bydd yn rhedeg tan ddechrau 2026.


Bydd penderfyniad wedyn yn cael ei wneud ynghylch a all barhau yn y Fro ac o bosibl gael ei gyflwyno'n ehangach.


Mae preswylwyr wedi cael sachau glas i osod plastigau meddal i'w hailgylchu ynddynt, ynghyd â thaflen yn esbonio'r mathau o ddeunyddiau fydd yn cael eu derbyn wrth ymyl y ffordd.


Bydd yr eitemau a gesglir fel rhan o'r treial yn cael eu hailgylchu'n gynhyrchion fel bagiau am oes a bagiau bin, gan leihau'r ddibyniaeth ar blastigau untro. Bydd hyn hefyd yn cynyddu faint o wastraff cartref nag y gellir ei ailgylchu.


Mae bron i 10 y cant o'r deunydd a geir mewn bagiau du yn cynnwys plastigau meddal a gellir ei ailgylchu gan ddefnyddio'r system newydd hon.


Bydd tua 16,000 o gartrefi, gan gynnwys cymysgedd o fathau o dai yn cymryd rhan yn y prosiect peilot, gydag adborth yn cael ei gasglu wrth iddo fynd yn ei flaen.


Mae rhagor o wybodaeth am y treial ar gael yma.