Cost of Living Support Icon

 

Dathlu Gweithwyr Gofal y Fro yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal 2025

Mae gweithwyr gofal o Fro Morgannwg wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau eithriadol i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal yng Nghaerdydd.

  • Dydd Iau, 22 Mis Mai 2025

    Bro Morgannwg



excellence in care awardsRoedd y seremoni wobrwyo flynyddol - a gyflwynwyd gan Kate Lewis o ITV yn Stadiwm Dinas Caerdydd – yn anrhydeddu gweithwyr gofal o dîm awdurdodau lleol a sefydliadau allanol sydd wedi cwblhau cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf.


Daeth y digwyddiad eleni ag ystod eang o fynychwyr ynghyd, gan gynnwys Maer Bro Morgannwg - y Cynghorydd Naomi Marshallsea - a Maer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones. 


Roedd uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Gynghorau Bro Morgannwg a Chaerdydd hefyd yn bresennol i ddangos eu cefnogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae'n hyfryd gweld gwaith caled ac ymroddiad ein gweithwyr gofal yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal.


“Mae'r grŵp ymroddedig hwn wedi dangos safonau rhagorol o ofal a thosturi tuag at eraill yn ogystal â'r gwahaniaeth sylweddol y maent yn ei wneud ym mywydau'r bobl y maent yn eu cefnogi.


“Mae eu gwaith caled nid yn unig yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ond mae hefyd yn wirioneddol ysbrydoledig i ni i gyd.”

Cyflwynwyd tystysgrif cyflawniad, bag nwyddau, a dysgl grochenwaith coffáu unigryw a luniwyd â llaw gan oedolion gyda chefnogaeth Vision 21 - gwasanaeth sy'n galluogi oedolion ag anableddau dysgu i ddatblygu sgiliau newydd a gwireddu eu potensial trwy brosiectau ystyrlon.