Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 04 Mis Tachwedd 2025
Bro Morgannwg
O ddydd Llun 3 Tachwedd 2025 ymlaen, bydd Cwmpawd Teulu y Fro yn gwasanaethu fel un pwynt mynediad i deuluoedd sy'n ceisio cael cymorth neu arweiniad gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Llinell Cyngor i Deuluoedd yn Gyntaf, Tîm o Amgylch y Teulu, Gwasanaeth Rhianta y Fro a'r Tîm Derbyn.
Mae Cwmpawd Teulu y Fro wedi'i gynllunio i helpu teuluoedd, rhieni a gofalwyr i gael cymorth pan fydd ei angen arnynt.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Bydd Cwmpawd Teulu y Fro yn ei gwneud hi'n haws i deuluoedd ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn.
“Drwy ddod â gwasanaethau lluosog at ei gilydd o dan un pwynt mynediad clir, gallwn ymateb yn gyflymach, gweithio'n fwy effeithlon, a sicrhau canlyniadau gwell i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Bro Morgannwg.”
Y pwyntiau cyswllt newydd ar gyfer Cwmpawd Teulu y Fro yw:
Ar gyfer y newyddion diweddaraf am wasanaeth Cwmpawd Teulu y Fro, dilynwch @ValeFamilyCompass ar Facebook.