Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn Lansio Gwasanaeth Ailgylchu Tecstilau Newydd

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno gwasanaeth ailgylchu tecstilau newydd i helpu trigolion i roi ail fywyd i ddillad diangen a ffabrigau cartref.

  • Dydd Llun, 03 Mis Tachwedd 2025

    Bro Morgannwg



O ddydd Llun 17 Tachwedd 2025 ymlaen, bydd tecstilau y gellir eu hailddefnyddio fel dillad, esgidiau, bagiau llaw, tyweli, dillad gwely, a llenni yn cael eu casglu o aelwydydd a'u hanfon at gwmni arbenigol sy'n ailddosbarthu eitemau o safon yn y DU a thramor. 


Mae hyn yn sicrhau bod modd ailddefnyddio'r eitemau gan bobl sydd eu hangen, gan helpu hefyd i leihau allyriadau gwastraff a charbon.


Mae lansio'r gwasanaeth newydd hefyd yn cyd-fynd ag Wythnos Hinsawdd Cymru 2025.


Trigolion y Barri fydd y cyntaf i elwa o'r gwasanaeth newydd, ac yna bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n raddol i bob cartref ledled y sir.


Gofynnir i breswylwyr sicrhau bod yr holl eitemau a gyflwynir i'w casglu yn lân, yn sych, ac mewn cyflwr gwisgadwy, a bod esgidiau yn cael eu paru gyda'i gilydd.


New textile collection service CYMae'r eitemau a dderbynnir yn cynnwys:

 

  • Dillad bob dydd
  • Parau o esgidiau
  • Bagiau llaw
  • Tyweli 
  • Cynfasau gwely 
  • Lliain bwrdd, rhedwyr a napcynau
  • Llenni ac eitemau ffabrig tebyg

Mae'r eitemau na dderbynnir yn cynnwys:

 

  • Gwisgoedd wedi'u brandio neu gorfforaethol
  • Dillad gwaith gwelededd uchel neu ddiogelwch
  • Dwfes, cwiltiau, ney clustogau
  • Unrhyw eitemau sydd wedi'u difrodi, wedi'u rhwygo, wedi'u baeddu'n drwm, neu'n wlyb

Anogir trigolion sy'n byw y tu allan i'r Barri i barhau i fynd â thecstilau y gellir eu hailddefnyddio i'w Canolfan Ailgylchu leol neu ystyried rhoi neu werthu eitemau ar-lein neu mewn siopau elusennau lleol nes bod y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno ledled y sir.


Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Rydym yn falch iawn o gyflwyno'r cynllun newydd gwych hwn, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i drigolion ailgylchu tecstilau o gartref.


“Mae'r gwasanaeth ailgylchu tecstilau yn cyd-fynd yn agos ag uchelgeisiau Prosiect Sero y Cyngor i leihau ein hallyriadau carbon i sero net erbyn 2030 ac mae hefyd yn cefnogi dull cenedlaethol Llywodraeth Cymru o ailgylchu a rheoli gwastraff drwy sicrhau ein bod yn ailgylchu o leiaf 70% o'n gwastraff.


“Drwy roi ail fywyd i ddillad a ffabrigau diangen, rydym yn creu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb, a byddwn yn ychwanegu at y dewis o ble mae pobl yn rhoi eu dillad a thecstilau eraill”


Gan fod hwn yn wasanaeth newydd sbon, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion gyfyngu eu tecstilau i un bag fesul casgliad yn ystod y misoedd cyntaf ar ôl y lansiad er mwyn helpu timau casglu i ddeall faint o ddeunydd y maent yn debygol o gael wrth gyflwyno’r gwasanaeth yn ehangach.

 

Am ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Ailgylchu Tecstilau, cliciwch yma.