Beicwyr Ifanc yn Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Clwb Beicio
Cafodd egin feicwyr yn y Barri eu cydnabod am eu brwdfrydedd a'u cynnydd fel rhan o fenter Clwb Beicio y Barri mewn noson arbennig o gyflwyno tystysgrif.
Bellach yn ei drydedd flwyddyn lwyddiannus, mae Clwb Beicio y Barri — a ariennir gan Gronfa Ffyniant a Rennir (SPF) Llywodraeth y DU — yn parhau i gynnig sesiynau beicio wythnosol am ddim i blant lleol 6—10 oed.
Mae'r clwb, a gynhelir yn Nhŷ Iolo yn y Barri bob nos Fawrth, yn cael ei gyflwyno gan Pedal Power ac fe'i cefnogir gan Gyngor Bro Morgannwg.

Fel rhan o ddathliadau'r noson, cyflwynwyd beiciau i dri phlentyn hefyd, a roddwyd drwy brosiect ReCycle - menter dan arweiniad Pedal Power gyda chymorth y Cyngor.
Mae'r prosiect ReCYCLE yn adnewyddu hen feiciau, gan roi bywyd newydd iddynt a darparu mynediad i feicio i deuluoedd a allai fel arall gael trafferth gyda chost beic.
Dywedodd Mark Ellis, Swyddog Buddsoddi a Chynnwys Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg: “Ar ôl bod yn rhan o'r prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf, rwy'n falch iawn o weld Clwb Beicio y Barri yn cynyddu mewn niferoedd o flwyddyn i flwyddyn. Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â'r tîm Teithio Llesol ac rydw i eisoes yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf a chael mwy o blant lleol yn ymwneud â dysgu reidio beic”.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: “Rydym yn hynod falch o gefnogi prosiectau fel Clwb Beicio y Barri, sydd nid yn unig yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol, ond hefyd yn helpu plant i fagu hyder ac ymdeimlad o gymuned gyda'u cyfoedion.
“Mae'n hyfryd gweld Clwb Beicio y Barri yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae ychwanegu'r beiciau a roddir drwy brosiect ReCYCLE yn ffordd wych o sicrhau bod hyd yn oed mwy o blant yn gallu mwynhau'r rhyddid a'r hwyl y mae beicio yn ei sgil.”