Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Uwchradd Whitmore yn cael ei chydnabod fel un o Weithleoedd Gorau ym maes Addysg a Hyfforddiant y DU

Mae Ysgol Uwchradd Whitmore wedi cael ei henwi ymhlith Gweithleoedd Gorau'r DU mewn Addysg a Hyfforddiant ar gyfer 2025 gan Great Place To Work UK.

  • Dydd Iau, 18 Mis Medi 2025

    Bro Morgannwg



Cafodd yr ysgol ei chydnabod yn y categori 'Bach a Chanolig', yn dilyn adborth anhysbys cadarnhaol gan staff, a amlygodd ymdeimlad cryf o falchder ac ethos tîm cydweithredol fel cyfranwyr allweddol i'w hamgylchedd gwaith cadarnhaol.


Adroddodd staff eu bod yn gally tyfu'n broffesiynol ym mhob rôl, gyda chefnogaeth dull arweinyddiaeth sy'n hyrwyddo arloesi ar sail ymchwil a gwneud penderfyniadau cynhwysol.


Whitmore High School OutsideNododd un cydweithiwr: “Mae Ysgol Uwchradd Whitmore yn mwynhau cydweithrediad a chyfranogiad gwych gan staff, o rolau addysgu a rhai nad ydynt yn addysgu, ar draws pob agwedd ar fywyd ysgol. Rwy'n teimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi yn fy rôl ac yn cael fy mharchu gan fy nghydweithwyr beth bynnag yw eu rôl yng nghymuned yr ysgol. Mae hwn yn gorff o staff sydd wir yn cefnogi ei gilydd ac yn poeni am y gymuned rydyn ni'n ei gwasanaethu.”


Roedd yr anrhydedd cenedlaethol yn cynnwys gofyn i staff wneud sylwadau ar sut mae eu cyflogwr yn cefnogi eu cydbwysedd rhwng bywyd personol a bywyd gwaith, ymdeimlad o fodlonrwydd, boddhad yn y swydd, diogelwch seicolegol a diogelwch ariannol. Roedd gwerthusiadau hefyd yn cynnwys asesiad o ba mor dda yr oedd y sefydliad yn gallu darparu cysondeb o brofiad eu gweithwyr ar draws pob adran a lefel heneiddrwydd.


Dywedodd Innes Robinson, Pennaeth Gweithredol yr Ysgol: “Rwy'n hynod falch o staff Ysgol Uwchradd Whitmore. Mae ein staff eisiau gwella yn gyson, ac am ddatblygu i wneud pethau yn well i'r plant ac maen nhw'n gwneud hyn tra'n cefnogi a gwerthfawrogi ei gilydd. Mae'n lle gwych i weithio.”


Dywedodd Benedict Gautrey, Rheolwr Gyfarwyddwr Great Place To Work UK: “Mae Gweithleoedd Gorau'r DU mewn Addysg a Hyfforddiant yn creu amgylcheddau lle mae eu pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, ac yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. 


“Mae'r data'n dangos i ni fod y sefydliadau hyn yn ymdrechu i ddarparu digon o hyblygrwydd ac ymreolaeth, gan ganiatáu i staff wneud gwaith ystyrlon mewn diwylliant sy'n galluogi pobl i berfformio ar eu gorau. Llongyfarchiadau Ysgol Uwchradd Whitmore ar gael ei chydnabod fel un o Weithleoedd Gorau'r DU ym maes Addysg a Hyfforddiant.”


Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Rydym yn hynod falch bod Ysgol Uwchradd Whitmore wedi cael ei chydnabod fel un o Weithleoedd Gorau'r DU ym maes Addysg a Hyfforddiant. 


“Mae'r wobr hon yn dyst i ymrwymiad yr ysgol i feithrin amgylchedd cadarnhaol, cefnogol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u grymuso. Mae llwyddiant Whitmore yn adlewyrchu ymroddiad ei dîm cyfan, ac edrychwn ymlaen at weld yr ysgol yn parhau i ffynnu.”