Y Barri i Gynnal Ffair Prentisiaethau a Gyrfaoedd Am Ddim
Mae Cymunedau am Waith, CELT+, Gyrfa Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Economi'r Fro, a Choleg Caerdydd a'r Fro yn dod at ei gilydd i gysylltu pobl o bob oed gydag addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth mewn Ffair Brentisiaethau a Gyrfaoedd yn y Barri.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 11eg Mawrth 2026, rhwng 10:00yb a 2:00yp, yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Memo ar Heol Gladstone yn y Barri.
Bydd awr dawel dynodedig yn rhedeg o 1:00yp i 2:00yp i gefnogi unigolion niwro-wahaniaethol a allai gael amgylcheddau prysur neu swnllyd yn heriol. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn sesiwn galw heibio, sy’n agored i bob oed, heb unrhyw angen i archebu.
Cadarnheir bod mwy na 50 o gyflogwyr a sefydliadau yn bresennol, gan gynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro, Llywodraeth Cymru, Admiral, Heddlu De Cymru, a llawer mwy.
Bydd y rhai sy'n mynychu yn gallu siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr, cymryd rhan mewn gweithdai byr, archwilio gweithgareddau cwrs a gyflwynir gan Goleg Caerdydd a'r Fro, a defnyddio gorsaf 'Gwneud Cais ar y Dydd' i gymryd y camau nesaf yn syth.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â darparwyr addysg, cyflogwyr a chymunedau at ei gilydd i helpu mwy o drigolion i ddarganfod cyfoeth o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Drwy greu gofod cynhwysol, hygyrch, rydym yn helpu pobl o bob oed i archwilio eu dewisiadau, magu hyder, a chymryd camau cadarnhaol tuag at eu dyfodol.”
Gall cyflogwyr archebu stondin i fynychu o hyd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â c4w-barry@valeofglamorgan.gov.uk.