Cyngor yn sicrhau cyllid trafnidiaeth
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth a fydd yn rhoi hwb i iechyd a lles, sydd o fudd i'r amgylchedd ac yn gwella diogelwch ar y stryd.
Bydd bron i £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a ddyfarnwyd drwy Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn cael ei wario ar amrywiaeth o brosiectau ledled y Sir. Bydd yr arian yn cynnwys adeiladu llwybr cerdded, olwynio a beicio drwy Barc Bryn y Don ochr â Heol Caerdydd i gysylltu'r Barri â Dinas Powys.
Bydd camerâu cyflymder cyfartalog yn cael eu gosod drwy St Nicholas a Bonvilston i wella diogelwch ar y ffyrdd yn yr ardaloedd hyn.

Ochr yn ochr â hyn, mae adolygiad llawn o'r A48 yn cael ei gynnal i benderfynu a oes angen camerâu ychwanegol mewn lleoliadau eraill.
Bydd gwelliannau seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau, gan gynnwys arddangosfeydd electronig gyda gwybodaeth amser go-iawn mewn arosfannau bysiau.
Bydd yr arian hefyd yn helpu plant i deithio i'r ysgol ar droed neu ar feic, talu am welliannau i'r seilwaith presennol a gwell arwyddion a chyfleusterau i feicwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Leoedd Cynaliadwy: “Rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i ennill yr arian hwn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cefnogi mentrau trafnidiaeth allweddol.
“Byddant yn helpu pobl i ddewis mathau egnïol o deithio, gan wella iechyd corfforol a meddyliol.
“Gall sefydlu llwybrau cerdded a beicio a gwella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus hefyd helpu i leihau llygredd, gan adlewyrchu ymrwymiad Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
“Ochr yn ochr â hyn, bydd nifer o fesurau eraill hefyd i wella diogelwch priffyrdd, yn enwedig strydoedd o amgylch ysgolion, a gwaith i wneud beicio yn fwy ymarferol a hygyrch.”