Buddsoddiad o £1 Miliwn ym Mharc Pencoedtre
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn uwchraddio cyfleusterau Parc Pencoedtre y Barri yn sylweddol fel rhan o fuddsoddiad gwerth £1 miliwn.
Wedi'i ariannu drwy gynllun Balchder Lle Llywodraeth y DU, bydd y gwaith yn cyflawni:
- Sblashpad wedi'i uwchraddio
- Parc sglefrio concrit Newydd
- Bloc toiledau newydd sbon
Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y safle yn yr hydref, gyda’r holl welliannau i’w cwblhau erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Cyngor yn dechrau'r broses dendro ar gyfer dylunio a gosod y parc sglefrio newydd. Fel rhan o hyn, bydd trigolion lleol yn cael eu gwahodd i rannu eu syniadau a helpu i lunio'r dyluniad terfynol cyn iddo gael ei gytuno.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: “Mae'r buddsoddiad hwn yn ymwneud â balchder yn ein lleoedd a sicrhau bod ein mannau cyhoeddus yn diwallu anghenion y cymunedau sy'n eu defnyddio. Rydym yn gwybod pa mor boblogaidd yw'r sblashpad ym Mharc Pencoedtre, mae bob amser yn cael ei ddefnyddio'n dda drwy gydol yr haf. Rydym am sicrhau y bydd y gwelliannau hyn yn darparu cyfleusterau newydd o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a theuluoedd am flynyddoedd i ddod.
“Diolch i gyllid Balchder Lle, rydym nid yn unig yn uwchraddio'r sblashpad presennol ond hefyd yn rhoi cyfle gwirioneddol i'r gymuned ddylanwadu ar ddyluniad y parc sglefrio newydd, felly mae'n adlewyrchu'n agos yr hyn y mae defnyddwyr eisiau.”
Bydd rhagor o fanylion am gyfleoedd ymgysylltu am y parc sglefrio, ac bydd cerrig milltir y prosiect yn cael eu rhannu yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd y sblashpad presennol yn agor ar gyfer tymor yr haf ddydd Sadwrn 23 Mai, a bydd y gwaith uwchraddio yn dechrau unwaith y bydd yn cau yn yr hydref.
Anogir trigolion i ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ac ymweld â'r wefan i gael diweddariadau rheolaidd wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.