Cost of Living Support Icon
​

 

Cyngor yn cyflwyno codau QR ar finiau i fynd i'r afael â sbwriel 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno cynllun newydd i'w gwneud yn haws i drigolion ac ymwelwyr adrodd am finiau sbwriel sy'n gorlifo yng nghanol trefi.

  • Dydd Iau, 22 Mis Hydref 2026

    Bro Morgannwg



Bydd codau QR sydd wedi'u gosod ar finiau yn caniatáu i aelodau'r cyhoedd roi gwybod am fin sydd angen ei wagio yn gyflym gan ddefnyddio eu ffôn symudol. 


Bydd gan bob bin ei god unigryw ei hun, felly pan fydd rhywun yn ei sganio, bydd adroddiad yn cael ei anfon yn uniongyrchol at y Cyngor, gan helpu timau i nodi pa fin sydd angen ei wagio yn gynt.


QR Code on Bin - PenarthNod y cynllun yw gwneud adroddiadau am finiau sy'n gorlifo yn gyflymach ac yn symlach, gan helpu'r Cyngor i ymateb i broblemau a chynnal mannau cyhoeddus glanach a mwy croesawgar.


Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Rydym am i ganol ein trefi fod yn lleoedd glân, croesawgar i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Rydym yn gwybod y gall biniau sbwriel sy'n gorlifo fod yn rhwystredig, ac mae'r cynllun newydd hwn yn rhoi ffordd gyflym a hawdd i bobl roi gwybod i ni pryd mae angen gwagio bin.


“Drwy roi cod QR i bob bin, gallwn dderbyn adroddiadau mwy manwl a helpu ein timau i nodi lle mae angen sylw. Rydym hefyd yn parhau i wella cyfleusterau ailgylchu ledled y Fro, ac mae hwn yn gam ymarferol arall tuag at gadw ein mannau cyhoeddus yn edrych ar eu gorau.


“Byddem yn annog trigolion ac ymwelwyr i ddefnyddio'r codau QR os ydynt yn gweld bin llawn. Os yw bin eisoes yn gorlifo, byddem hefyd yn gofyn i bobl fynd ag unrhyw sbwriel sydd ganddynt gyda nhw nes y gallant ddod o hyd i fin arall, neu fynd ag ef adref i'w waredu, yn hytrach nag ychwanegu at y gorlif. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn i gyd helpu i gadw ein trefi yn daclus.”


Cyflwynwyd y cynllun i ddechrau ym Mhenarth, ac ers hynny mae wedi cael ei gyflwyno'n ehangach ar draws y Barri, Llanilltud Fawr a'r Bont-faen fel rhan o waith parhaus y Cyngor i gynnal canol trefi glân a deniadol ledled Bro Morgannwg.