Cost of Living Support Icon

Grwpiau Gwirfoddoli a Chymunedol

Gall gwirfoddoli fod yn un o’r ffyrdd o dreulio amser sy’n rhoi’r mwyaf o foddhad i chi.

 

Yn ogystal â gwneud gwir wahaniaeth i’r sefydliad rydych chi'n ei helpu, gallwch ddatblygu eich sgiliau, cyfarfod ffrindiau newydd ac agor eich llygaid i fyd newydd. 

 

Gwasanaeth Cefn Gwlad

Hoffech chi wirfoddoli a gweithio gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor? Rhowch hwb i chi’ch hun ac eraill, cewch hyfforddiant llawn a chymorth gan ein tîm o geidwaid. 

 

Gwirfoddoli

 

Bro 2030 - Datganiad Partneriaeth

Ein hymrwymiad i’r rhai sy’ngweithio gyda ni

 

Ein gweledigaeth ‘Cymunedau cryf â Dyfodol Disglair’ yw uchelgais y Cyngor i greu BroMorgannwg gyda chymunedau cryf, hapus ac iach, lle mae pob aelod o’n cymuned yn teimloeu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi ac yn gallu byw eu bywyd i’r eithaf. Rydym amweithio’n agos gyda’n cymunedau a chreu a meithrin perthnasoedd da gyda’r holl bartneriaidcymunedol. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol, cynghorautref a chymuned, mentrau cymdeithasol, cyrff cyhoeddus a busnesau.

 

Ein gwerthoedd yw bod yn agored, cydweithio, uchelgais ac balchder ac rydym wedi ymrwymoi sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd rydym yn gweithio gydag eraill.

 

Datganiad Partneriaeth

 

GVS Volunteering logo

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS)

Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) yn elusen annibynnol ac mae ganddi aelodaeth ffyniannus o sefydliadau gwirfoddoli a chymunedol sy’n weithgar ym Mro Morgannwg. Helpwn wella safon byw pobl a chymunedau drwy gefnogi gwirfoddolwyr, cyfleoedd i wirfoddoli a grwpiau gwirfoddol. 

 

www.gvs.cymru   

 

Elusen Gofrestredig Rhif. 1163193  Cwmni Cyfyngedig drwy Warant Rhif. 9517850 

Value in the Vale logo

Gwerth yn y Fro

Mae Gwerth yn y Fro, cynllun Bancio Amser y Fro gynt, yn rhoi cyfleoedd i drigolion y Fro wirfoddoli i sefydliadau lleol ac yn eu tro’n eu gwobrwyo am eu hamser

 

Gwerth yn y Fro