Cost of Living Support Icon

Gwaith Lliniaru Llifogydd Boverton

Ers diwedd y 1990au mae nifer o achosion o lifogydd wedi cael effaith ddifrifol ar bentref Boverton ac ers y cyfnod hwnnw mae’r Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i ymchwilio i achosion y problemau a’r ffordd orau o ymdrin â hwy.

 

Cynhaliwyd astudiaeth modelu dalgylch gan Cyfoeth Naturiol Cymru a nododd y byddai'r llifoedd sy’n gysylltiedig ag 1 digwyddiad mewn 20 mlynedd yn torri allan o’r sianel i fyny’r afon ac y byddai cwlfer y briffordd yn dechrau gorlwytho. 
 
Canfuwyd y byddai cynyddu maint a sythu aliniad cwlfer y briffordd cymaint â phosibl o fewn cyfyngiadau’r lleoliad, yn darparu lefel amddiffyniad o 1 mewn 70 mlynedd.  Drwy ail-alinio a lledu’r sianel i lawr yr afon, fel y cynigir, byddai hyn yn cynyddu'r lefel amddiffyniad ymhellach i 1 mewn 100 mlynedd. 
 
Er gwaetha’r ffaith nad oedd cyllid llawn ar gael, ymrwymodd y Cyngor rywfaint o arian i baratoi cynllun yn ystod 2015/16 i sicrhau bod cynllun parod mewn lle, yn barod ar gyfer unrhyw ymrwymiad cyllid yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru. 
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar bod cyllid wedi’i ddyrannu yn eu cyllideb drafft ar gyfer 2016/17 i gwblhau'r cynllun amddiffyniad llifogydd pwysig hwn. 
 
Rhagwelir y gall y cynllun gael ei ailadeiladu dros gyfnod o tua 6 mis, gan ddechrau yn yr haf 2016 gobeithio. 
 
Oherwydd natur gyfyngedig iawn y safle adeiladu arfaethedig sydd wedi’i leoli yng nghanol y pentref, lle mae’r afon yn llifo a lle mae Boverton Road, Eagleswell Road a’r ffordd i Trebeferad yn cydgyfeirio; bydd y gwaith yn amharu ar yr ardal gyda nifer o gyfnodau lle bydd rhaid cyflwyno rheoliadau traffig un ffordd ac o leiaf un cyfnod lle bydd rhaid cau'r ffordd yn gyfan gwbl.

 

Y Newyddion Diweddaraf

 

 

Cysylltu â ni

Cyngor Bro Morgannwg
Yr Alpau
Gwenfo
CF5 6AA

 

Cyfoeth Naturiol Cymru
Rhif llifogydd (gwasanaeth 24 awr):
  • 0345 988 1188

Ymholiadau Cyffredinol (Llun – Gwener, 8.00am - 6.00pm):

  • 0300 065 3000

 

Ffeithiau Allweddol

Hyrwyddwyd y cynllun gan:
 - Cyngor Bro Morgannwg 
 - Cyfoeth Naturiol Cymru 
 
Ariannwyd gan: 
 - Cyngor Bro Morgannwg 
 - Llywodraeth Cymru  
 
Mewn perygl o lifogydd: 
 5 Eiddo preswyl 
 6 Busnes 
 
Amcan o gost y cynllun: 
£2.1m
 
Graddfa amser disgwyliedig: 
Datblygiad Tendr a Chontract: Gwanwyn 2016 
Adeiladu: 6 mis yn dechrau Haf 2016 
 
Amcan cyffredinol: 
Lleihau’r risg o lifogydd yn sylweddol i bentref Boverton
 
Swyddog arweiniol: 
Colin Bright