Cost of Living Support Icon

Y Newyddion Diweddaraf

Datblygwyd y dudalen hon i roi’r newyddion diweddaraf i chi am Gynllun Trebefered.

 

Wrth i’r cynllun symud yn ei flaen, bydd y newyddion diweddaraf yn cael ei roi ar y dudalen hon. Bydd y dudalen hefyd yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd, manylion dylunio’r opsiynau dewis a gwybodaeth newydd arall cyn gynted ag y bydd ar gael.

 

2018

 

14 Mawrth 2018 – Ar ddydd Sul Mawrth 18, mi fydd Heol Boverton yn ail –agor ac mi fydd Heol Eagleswell ar gau am wythnos.

 

2015

 

23rd Ionawr 2015 - Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghastell Trebefered am 4pm.

 

16th Rhagfyr - Boverton General Arrangement Drawing December 2014

8 Rhagfyr – Cyfarfod Cynnydd Bro Morgannwg a Cyfoeth Naturiol Cymru
Crynodeb o’r cyfarfod: Mae Intégral Géotechnique wedi cwblhau archwiliad tir a chyflwyno adroddiad i BM. Mae BM wedi ystyried y pedwar opsiwn yn yr adroddiad a dod i’r casglu mai’r unig opsiwn ymarferol (yn seiliedig ar amser, risg a chost) yw Opsiwn 4, sef cwlfert ag ategwaith a sylfaen yn hytrach na chwlfert bocs concrit a gastiwyd ymlaen llawn. I sicrhau bod y dyluniad mor gost-effeithiol â phosibl, bydd 
angen archwiliad tir ychwanegol yn canolbwyntio ar y 5 metr uchaf o dir meddal, a bydd BM yn symud ymlaen â'r archwiliad hwn cyn gynted â phosibl.
Cyflwynwyd dyluniad drafft o’r cynnig newydd, sef cwlfert pentwr 4m o led ynghyd â gwaith lledaenu i lawr yr afon, i CNC.
Cytunwyd y byddai llawer o fanteision i’r opsiwn hwn o gymharu â'r dyluniad blaenorol. Mae CNC wedi nodi a rhoi gwybod i dirfeddianwyr yr effeithir arnynt i lawr yr afon o ganlyniad i'r gwaith hwn. Mae CNC bron â chwblhau’r dadansoddiad cost a budd o’r gwaith a fydd yn angenrheidiol i drafod cyllid gyda Llywodraeth Cymru.

 

 

Ffeithiau Allweddol

 

Hyrwyddwyd y cynllun gan:
 - Cyngor Bro Morgannwg (BM)
 
 - Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

 

Ariannwyd gan:
  - Ariannwyd yn rhannol gan BM £250k, gweddill i’w gyhoeddi


Eiddo mewn perygl o lifogydd:
 - Eiddo preswyl 
 - Busnes

 

Cost y cynllun:
 -I’w gadarnhau

 

Amserlen ddisgwyliedig:
Adroddiad Dylunio yn Hydref 2014
CNC i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru erbyn Rhagfyr 2014
 
Dyluniad Manwl erbyn Rhagfyr 2014
 
Yn amodol ar gyllid, disgwylir y caiff hysbysiadau mynediad tir eu cyhoeddi erbyn gwanwyn 2015 ac y bydd gwaith adeiladu'n dechrau yn haf 2015.

 

Amcan cyffredinol:
Lleihau'n sylweddol faint ac amlder llifogydd yn Nhrebefered

 

Prif swyddog:
Colin Bright

 

5 Rhagfyr – Adroddiad Archwiliad Tir
Crynodeb o adroddiad: Roedd yr archwiliad tir yn cynnwys drilio pum twll turio cylch mewn lleoliadau y naill ochr i'r cwlfert cyfredol, yn bennaf i archwilio dyfnder a natur y strata craigwely solid. Roedd hefyd yn cynnwys drilio tri thwll sampl di-ffenestr ger nodwedd datrysiad posibl a nodwyd yn flaenorol, gyda'r tyllau sampl di-ffenestr yn cael eu lleoli i ddangos maint llorweddol a fertigol y deunyddiau naturiol "meddal/meddal iawn" islaw'r dyddodion sydd eisoes yn eu lle yn y ddaear.
Dangosir crynodeb o gyflwr y tir isod:

 

Ground Conditions Table Boverton

 

Ym mron pob enghraifft, byddai hyn yn rhoi gwaelod y cwlfert arfaethedig o fewn y siltiau sydd wedi’u hindreulio’n sylweddol islaw’r dyddodion sydd eisoes yn y tir. Mae profion ar y safle a dadansoddiadau mewn labordai wedi dangos bod y deunyddiau hyn yn ddirlawn ac nad ydynt wedi’u cyfnerthu/eu bod yn sensitif iawn.


Bydd setliadau’n codi o unrhyw bwysau ychwanegol a roddir ar y pridd. Fodd bynnag, gall tir hefyd symud yn sgîl aflonyddwch ar y ddaear a/neu yn dilyn cyfnod o bwysau neu symudiadau wrth i lwythi gael eu symud ac wrth i'r tir gael ei ail-atgyfnerthu. Felly, disgwylir y bydd angen mabwysiadu mesurau lliniaru i reoli'r effeithiau hyn.


Yn seiliedig ar yr holl brofion ar y safle hyd yma, awgrymir na fydd y tir gwneuthuredig na’r siltiau meddal a meddal iawn yn cefnogi'r cwlfert bocs arfaethedig heb setliad gormodol, yn gyflawn ac yn ddifferol.
Felly, yn dibynnu ar ganlyniadau’r gwaith archwilio pellach a argymhellir, cynigir am nawr bedwar opsiwn sylfaenol ar gyfer y gwaith arfaethedig:-

  • Opsiwn 1 – Defnyddio mesurau lliniaru i leihau setliad cychwynnol a hirdymor y cwlfert;
  • Opsiwn 2 – Cymysgu pridd i sefydlogi deunydd gwael a darparu stratwm ‘mwy cadarn’ ar gyfer rhoi’r cwlfert yn ei le;
  • Opsiwm 3 – Defnyddio sylfeini pentwr ar gyfer y cwlfert arfaethedig; neu
  • Opsiwm 4 – Mabwysiadu sylfaen pentwr secant gan ddefnyddio pentyrrau secant i ffurfio’r ‘waliau’ a sylfeini’r cwlfert, gan felly ddileu’r angen am unedau cwlfert bocs a gastiwyd ymlaen llaw.

O ystyried y materion ymarferol, ffisegol a rheolaethol sy’n ymwneud â’r gwaith adeiladu, mae’n hanfodol bod yr holl opsiynau hyn yn cael eu hailasesu ar ôl i'r gwaith archwilio ategol gael ei gwblhau.
Fodd bynnag, mae risgiau geodechnegol amrywiol yn gysylltiedig â defnyddio bocs concrit a gastiwyd ymlaen llaw, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ac felly o’r pedwar opsiwn a ystyriwyd ar y cam hwn ac yn seiliedig ar ddata’r archwiliad safle, y dull a ffafrir yw Opsiwn 4, sef adeiladu wal secant.

   

7 Tachwedd – Cyfarfod safle BT
Cynhaliwyd cyfarfod ar y safle gyda BT i drafod yr opsiynau ar gyfer gwyro eu gwasanaethau yn ystod y gwaith adeiladu.

 

30 Hydref – Cyfarfod safle CNC
Crynodeb o’r cyfarfod:Cynhaliwyd cyfarfod gyda grŵp cydsyniad llifogydd CNC i drafod yr opsiynau dylunio ar gyfer gwaith lledaenu i lawr yr afon.

 

30 Hydref – Cyfarfod safle WPD
Crynodeb o’r cyfarfod:Cynhaliwyd cyfarfod ar y safle gyda WPD i drafod yr opsiynau ar gyfer gwyro cyflenwadau trydan yn ystod y gwaith adeiladu.

 

29 Medi – 3 Hydref – Archwilio’r tir yn Nhrebefered.

 

Awst – Er mwyn pennu llinell y cwlfert newydd a'r gwaith i lawr yr afon ac i ddatblygu'r dyluniad, yn ogystal â chynhyrchu amcangyfrifon cywir o opsiynau gwahanol y cynllun, rydym wrthi'n trafod gyda chwmnïau cyfleustodau (BT, Dŵr Cymru, Western Power Distribution a Wales and West Utilities) i gytuno ar wyro gwasanaethau yr effeithir arnynt gan opsiynau gwahanol y cynllun.
 
Rydym hefyd yn datblygu ac yn cychwyn trafodaethau gyda gweithgynhyrchwyr cwlfertau bocs ac arbenigwyr gwyro afonydd. Rydym hefyd yn trafod gwyro traffig ac opsiynau rheoli gyda thîm priffyrdd BM a thirfeddianwyr.
 
Yn unol ag argymhellion yn yr Adroddiad Archwiliad Safle Ffeithiol cychwynnol, disgwylir i Archwiliad Tir pellach gael ei gynnal ym mis Medi i bennu cyflwr y tir yn ddigon manwl.

 

12 Awst – Cyfarfod BM a CNC i drafod y ffordd ymlaen.
Crynodeb o’r cyfarfod: Mae JBA bellach wedi cwblhau’r gwaith modelu ar gyfer y dalgylch ac wedi rhoi Adroddiad Cynigion Cwlfert a Sianel Afon i CNC. Mae rhai opsiynau dylunio gwahanol bellach ar gael, ac i sicrhau bod yr opsiwn gorau mewn perthynas â chyfnodau llifogydd a chost yn cael ei ddewis, bydd ein peirianwyr yn llunio adroddiad dylunio a fydd yn amlinellu manteision a chyfyngiadau'r opsiynau gwahanol ac yn rhoi amcangyfrifon cywirach o ran cost. Disgwylir i’r adroddiad gael ei gwblhau ym mis Hydref. Yn seiliedig ar yr adroddiad hwn bydd CNC yn datblygu cyfrifiadau Cost/Budd gyda’r nod o wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru erbyn Rhagfyr 2014, ac yna byddwn yn datblygu dyluniad manwl o’r opsiwn terfynol a ffefrir. Os cawn gyllid, disgwylir y caiff hysbysiadau mynediad tir eu cyhoeddi erbyn gwanwyn 2015 ac y bydd gwaith adeiladu'n dechrau yn haf 2015.

 

15 Gorffennaf – Cyfarfod gyda BM, CNC a JBA i drafod yr Arfarniad Opsiynau Strategol drafft a’r Adroddiad Cynigion Cwlfert a Sianel Afon.

 

9 Gorffennaf – Cafwyd Adroddiad Archwiliad Safle Ffeithiol ar gyfer Archwiliad Tir 1. Crynodeb o'r adroddiad, Cynllun Safle.

 

1 Mai - Cyfarfod safle gyda BM a CNC i bennu gofynion (perygl llifogydd, llygredd a rheolaethau ecolegol) y Cydsyniad Amddiffyn rhag Llifogydd ar gyfer unrhyw archwiliad a gwaith cwlfertau.

 

11 Ebrill – Cyfarfod Cyhoeddus, cofnodion a chyflwyniad.
 
10 Ebrill – Cyfarfod gyda BM, CNC a JBA.
 
27 Mawrth – Archwiliad Tir 1 wedi’i gynnal.
 
6 ChwefrorPublic Meeting, minutes

 

 

2013

20 Rhagfyr – Cyfarfod canlyniadau’r Model Llifogydd Cychwynnol gyda BM, CNC a JBA.
 
19 Gorffennaf -
Public Meeting, minutes.