Cost of Living Support Icon

Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (RhPLlEA)

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn  Awdurdod Rheoli Perygl Cymreig; gan weithredu fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ac Awdurdod Rheoli Risg Erydu Arfordirol. 

 

Mae ardal o 420 cilomedr sgwâr yn perthyn i’r Fwrdeistref Sirol, ynghyd ag arfordir o 45 cilomedr o ran hyd. Gwledig yw’r fwrdeistref at ei gilydd gyda rhai ardaloedd trefol. Yn yr un modd arfordir naturiol sydd i’r glannau, gan gynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg, gyda rhannau sydd wedi eu rheoli yn fwy gerllaw yr ardaloedd mwy datblygedig fel Y Barri.

 

 

Yn unol â’r Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, bydd y Cyngor fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) yn creu cynlluniau i nodi'r ardaloedd perygl o lifogydd yn ei ardal weinyddol.
 
Bydd yn gweithio ochr yn ochr â’i asiantaethau peryglon llifogydd eraill i sicrhau bod y gweithgareddau rheoli perygl o lifogydd yn unol á Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

 

  • Asesiad Perygl o Lifogydd Cychwynnol

    Nod y broses APLC yw darparu trosolwg lefel uchel o beryglon llifogydd gan ffynonellau llifogydd lleol, gan gynnwys dŵr wyneb, dŵr daear, cyrsiau dŵr arferol, camlesi a llynnoedd. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd (AA) yn gyfrifol am gynnig Rheoliadau Perygl Llifogydd ar gyfer Prif Afonydd a’r môr.
     
    Mae Asesiad Perygl o Lifogydd Cychwynnol wedi'i baratoi i fodloni dyletswyddau Cyngor Bro Morgannwg i reoli perygl o lifogydd yn lleol ac i gyflenwi gofynion y Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009). Mae Atodiad 1 cofnodion llifogydd blaenorol APLC a’u canlyniadau sylweddol.  Mae Atodiad 2 yn nodi llifogydd y'u disgwylir yn y dyfodol a'r canlyniadau sylweddol. Ni adnabuwyd unrhyw Ardaloedd Perygl o Lifogydd dangosol ym Mro Morgannwg
     
    Bydd yr APLC yn cael ei adolygu erbyn 22 Mehefin 2017 a pob chwe mlynedd ar ôl hynny.

     

    Adroddiad Adendwm - Rhagfyr 2017

    Crynodeb Weithredol

     

  • Adnabod Ardaloedd Perygl o Lifogydd Sylweddol

    Mae Ardaloedd sydd mewn Perygl o Lifogydd yn berygl sylweddol a adnabuwyd ar sail canfyddiadau'r APLC, meini prawf cenedlaethol a bennir gan Weinidogion Cymru a chanllawiau a nodir gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
     
    Ni adnabuwyd unrhyw Ardaloedd Perygl o Lifogydd dangosol ym Mro Morgannwg. Er gwybodaeth, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynhyrchu map yn nodi’r holl Ardaloedd sydd mewn Perygl o Lifogydd fel a nodir yn yr APLC.

Rheolaeth Asedau

Mae gan awdurdodau lleol arweiniol ddyletswydd i greu a chynnal cofnod o dan FWMA 2010, dylent:

  • Gofnodi gwybodaeth ynghylch pob un o’r strwythurau neu’r nodweddion hynny
  • Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am berchnogaeth a chyflwr
  • bydd yr awdurdod yn trefnu fod y gofrestr ar gael i’w harchwilio ar bob adeg resymol.
  • Sefydlu a chynnal cofrestr o strwythurau neu nodweddion sydd, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael effaith sylweddol ar risg llifogydd yn ei ardal

 

Archwilio ac Adrodd am Ddigwyddiadau Llifogydd

Rhaid i bob ALlLlA archwilio pob digwyddiad llifogydd a pharatoi a chyhoeddi adroddiad ar bob digwyddiad.  Er mwyn adrodd am ddigwyddiad llifogydd cysylltwch â:
 

Tîm Amgylchedd Peirianneg 

Cyngor Bro Morgannwg
Gwasanaethau Gweladwy a Thai
Depo’r Alpau
Gwenfô
CF5 6AA