Diweddariad ar y Coronafeirws
Oherwydd effaith y pandemig Coronafeirws, mae tîm SuDS Cyngor Bro Morgannwg wedi addasu’r ffordd maen nhw’n gweithio. Mae’r rhan fwyaf o staff yn gweithio gartref ac mae modd cysylltu â nhw drwy eu manylion cyswllt arferol.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch:
Gallai gymryd yn hirach na’r arfer i ymateb i ymholiadau’n ystod y cyfnod hwn a diolchwn i chi am eich amynedd.
Byddwn yn dal i dderbyn ceisiadau cynllunio newydd a cheisiadau am gyngor cyn cais, a phenderfynu ar y ceisiadau hyn lle y bo’n bosibl. Ond, ni fyddwn yn cynnig cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar yr adeg hon.
Byddwn hefyd yn annog ein cwsmeriaid i ddefnyddio e-bost i gyflwyno gwybodaeth ar yr adeg hon i reoli’r llwyth gwaith yn effeithlon.
Byddwn yn dal i wneud gwaith gorfodi, monitro cydymffurfiaeth ag amodau cynllunio a gweithredu yn erbyn tor-amodau rheoliadau SuDS.
Os oes gennych ymholiad penodol am achos, cysylltwch â'r swyddog achos yn uniongyrchol ond anfonwch bob e-bost i sab@valeofglamorgan.gov.uk hefyd.